Mae dyn yn ei 20au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Julia James, swyddog heddlu cymunedol yng Nghaint.

Cafwyd hyd i’w chorff mewn ardal goediog ger ei chartref yn Snowdown ar Ebrill 27.

Bu farw’r ddynes 53 oed o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w phen.

Cafodd y dyn ei arestio yn ardal Caergaint ddoe (dydd Gwener, Mai 7).

Mae’r heddlu’n apelio am dystion, ac roedden nhw wedi cyhoeddi llun o ddyn roedden nhw’n dweud y gallai fod yn “hanfodol bwysig” i’r ymchwiliad, ond dydyn nhw ddim bellach yn apelio am wybodaeth amdano fe.

Mae’r heddlu’n parhau i gynnal ymchwiliad mewn sawl ardal.