Mae Llafur wedi ennill cyfanswm o 30 o seddi yn y Senedd – un yn brin o fwyafrif – a fydd yn ddigon iddyn nhw ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru.
Gyda’r etholaethau wedi cadarnhau eu canlyniadau ddoe (dydd Gwener, Mai 7), cafodd canlyniadau’r rhanbarthau olaf eu cadarnhau heddiw (dydd Sadwrn, Mai 8).
Enillodd Llafur hanner y seddi – eu perfformiad gorau erioed – gyda’r Ceidwadwyr yn ennill 16, Plaid Cymru 13 a’r Democratiaid Rhyddfrydol un.
Does neb yn hanes y sefydliad wedi ennill 31 o seddi.
Fe fu Llafur mewn grym, felly, ym mhob tymor o’r Cynulliad neu’r Senedd ers ei sefydlu 22 o flynyddoedd yn ôl.
Mae Mark Drakeford, fydd yn disgwyl dychwelyd i’w swydd yn brif weinidog, wedi addo llywodraeth “radical ac uchelgeisiol”.
Rhanbarthau
Roedd wyth sedd ar gael yn y rhanbarthau heddiw a bellach, mae’r darlun yn gyflawn.
Enillodd Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr ddwy sedd yr un yng Nghanol De Cymru a Dwyrain De Cymru.
Yn Nwyrain De Cymru, aeth y seddi olaf i Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru, a Laura Anne Jones a Natasha Asghar o’r Ceidwadwyr.
Yng Nghanol De Cymru, yr arweinydd Andrew RT Davies a Joel James gafodd eu hethol o blith y Ceidwadwyr, gyda Rhys ab Owen a Heledd Fychan yn mynd i’r Senedd yn enw Plaid Cymru.
- Gallwch weld manylion y canlyniad terfynol yn y blog, isod.