Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dathlu eu perfformiad gorau erioed yn etholiadau’r Senedd, wrth iddyn nhw ennill cyfanswm o 16 o seddi.
Ar yr ail ddiwrnod o gyfri pleidleisiau, enillon nhw ddwy sedd ranbarthol yng Nghanol De Cymru a dwy yn Nwyrain De Cymru.
Cawson nhw 289,802 o bleidleisiau ar draws y 40 etholaeth, sy’n cyfateb i 26.1% o’r bleidlais, gan gipio Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Maesyfed.
Enillon nhw 278,560 o bleidleisiau yn y rhanbarthau (gyda’u cyfran i fyny 6.3).
Mae ganddyn nhw hefyd y ddynes gyntaf o gefndir BAME, ar ôl i Natasha Asghar, merch y diweddar Mohammad Asghar, gael ei hethol yn Nwyrain De Cymru.
‘Ymgyrch anghonfensiynol’
Yn ôl yr arweinydd, Andrew RT Davies, roedd yr ymgyrch eleni’n un “anghonfensiynol”.
“Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch yn fawr i’n set rhagorol o ymgeiswyr Ceidwadwyr Cymreig, ymgyrchwyr a staff sydd wedi gweithio’n eithriadol o galed yn ystod yr ymgyrch hon ac wedi sicrhau canlyniad gorau erioed y blaid yn y Senedd,” meddai.
“Mae’r tîm wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl ac yn haeddu cryn glod am yr ymgyrch bositif rydyn ni wedi’i rhedeg ledled Cymru, a dw i wrth fy modd o weld Natasha Asghar yn creu hanes yn Nwyrain De Cymru drwy fod y ddynes gyntaf o gefndir BAME i gael ei hethol i’r Senedd.
“Fel plaid, rydyn ni hefyd wrth ein boddau o fod wedi sicrhau seddi etholaethau Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Maesyfed, a chynyddu ein seddi ar y rhestrau rhanbarthol, gan arwain at ein cynrychiolaeth fwyaf erioed yn y Senedd, gydag 16 o aelodau.
“Fe fu’n ymgyrch anghonfensiynol ac mae’n glir fod cyfnod mewn swydd a pharhad wedi chwarae rhan allweddol.
“I’r perwyl hwnnw, hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau diffuant i Mark Drakeford a Llafur Cymru ar ymgyrch lwyddiannus.
“Cafodd yr etholiad ei frwydro mewn hwyliau da gan bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, a hoffwn roi gair olaf o ddiolch i’r swyddogion niferus ledled y wlad sydd wedi galluogi’r etholiad hwn i gael ei gynnal mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.”