Dylai Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fanteisio ar ganlyniadau’r etholiadau yng Nghymru a’r Alban er mwyn “ailosod perthnasau” â’r gwledydd datganoledig, yn ôl Mark Drakeford.
Daw sylwadau arweinydd Llafur Cymru ar ôl i’w blaid ennill etholiadau’r Senedd er mwyn cael aros mewn grym am dymor arall.
“Mae hon wir yn foment y dylai’r prif weinidog fanteisio arni i ailosod perthnasau ledled y Deyrnas Unedig, ar gyfer archwiliad difrifol o’r ffordd y gallwn ni greu’r peirianwaith a fydd yn ein galluogi ni i gydweithio yn y dyfodol,” meddai wrth Press Association.
“Nid dull sy’n meddwl am gyhwfan mwy o faneri Jac yr Undeb ar ben adeiladau ond perthnasau parchus go iawn sy’n cydnabod fod sofraniaeth bellach ar wasgar mewn pedair senedd lle’r ydyn ni’n dewis cyd-dynnu at ddibenion sydd gyda ni’n gyffredin.
“Dyna’r math o Deyrnas Unedig dw i’n credu fydd â’r siawns orau o oroesi, oherwydd mi fydd yn Deyrnas Unedig lle mae pobol eisiau bod yma, yn hytrach na chael eu gorchymyn i fod.”
Mark Drakeford eisiau cydweithio
Yn y cyfamser, dywed Mark Drakeford ei fod e’n awyddus i gydweithio â’r pleidiau eraill yn y Senedd i ffurfio Llywodraeth Cymru.
Mae Llafur Cymru un sedd yn brin o fwyafrif ar ôl ennill hanner y seddi’n union – 30 allan o 60.
Mae hynny’n golygu y gall fod angen cefnogaeth o rywle arall ar rai materion pe bai pleidlais yn gyfartal.
“Rydyn ni wedi dangos yn y gorffennol y gallwch chi lywodraethu’n llwyddiannus â 30 o seddi, ond fy null i fydd cydweithio â phleidiau eraill pan fod syniadau polisi sydd gyda ni’n gyffredin,” meddai.
“Does gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da.
“Mae’n llawer gwell gen i gydweithio ag eraill lle bynnag rydyn ni’n credu y byddai hynny er lles Cymru nag yr ydw i mewn trwsio pethau’n wleidyddol.
“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio ag unrhyw un sy’n credu, drwy wneud pethau gyda’n gilydd, y gallwn ni wneud pethau’n well.”