Dylai Alex Salmond adael y byd gwleidyddol ar ôl canlyniadau siomedig plaid Alba yn etholiadau Holyrood, yn ôl Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban.

Mae Salmond, cyn-arweinydd yr SNP, eisoes wedi cyfaddef nad yw ei blaid newydd, Alba, yn debygol o ennill yr un sedd.

“Ddylai e fyth fod wedi dod yn ôl,” meddai Douglas Ross.

“Dywedais i ei fod e’n berson cwbl anaddas i geisio swydd etholedig eto.

“Mae e’n honni – fel y mae wedi’i wneud – ei fod e wedi’i gael yn ddieuog mewn achosion llys ac yn y blaen, ond fe wnaeth e dderbyn fod ei ymddygiad ei hun ymhell o fod o’r safon sy’n ddisgwyliedig gan rywun mewn swydd etholedig.

“A dw i’n credu ei bod yn amhriodol ei fod e wedi ceisio cael ei ethol eto ac mae pobol y gogledd-ddwyrain wedi bod yn glir iawn nad ydyn nhw ei eisiau fe.”