Mae dynes o liw wedi’i hethol i Senedd yr Alban am y tro cyntaf erioed.

Mae Kaukab Stewart wedi’i hethol i gynrychioli’r SNP yn Glasgow Kelvin, wrth i’r blaid gadw’r sedd yn dilyn ymadawiad Sandra White.

Enillodd hi’r etholiad â 14,535 o bleidleisiau.

Cyn cael ei hethol, dywedodd hi wrth y BBC ei bod hi “ychydig bach o fethiant gan bob plaid gwleidyddol” na chafodd yr un ddynes arall o liw ei hethol i’r Senedd o’r blaen.

Patrick Harvie, cyd-arweinydd Plaid Werdd yr Alban, ddaeth yn ail â 9,077 o bleidleisiau.

Enillodd Llafur 8,605 o bleidleisiau, y Ceidwadwyr 2,850 o bleidleisiau a’r Democratiaid Rhyddfrydol 977.