Mae Nicola Sturgeon yn cyfaddef na fyddai’n “syndod mawr” pe na bai’r SNP yn ennill mwyafrif yn etholiadau Holyrood – ac mae ganddi rybudd i unrhyw un sy’n ceisio atal ail refferendwm annibyniaeth.

Dywed arweinydd y blaid eu bod nhw wedi ennill mwy o seddi etholaeth na’r tro diwethaf, cyfran uwch o’r bleidlais yn yr etholaethau a mwy o bleidleisiau a chyfran uwch o’r bleidlais ar y cyfan nag “unrhyw blaid yn hanes datganoli”.

Ond mae’r blaid wedi colli mewn sawl etholaeth allweddol, a’r darogan yw y byddan nhw ddwy sedd yn brin o fwyafrif, gan orffen gyda 63 – yr un nifer â’r etholiad yn 2016.

Serch hynny, byddai’n golygu eu bod nhw wedi ennill pedwerydd etholiad o’r bron yn yr Alban.

Dywedodd fod y canlyniad yn “gamp hanesyddol”.

“Dw i wedi dweud ers y dechrau fod mwyafrif yn annhebygol,” meddai.

“Mae gennym ni system PR yn Holyrood, dydy hi ddim i fod i arwain at fwyafrif.

“Ond dw i wrth fy modd â’n canlyniadau ni.”

Mae’r SNP eisoes wedi ennill 60 sedd, y Ceidwadwyr pump, y Democratiaid Rhyddfrydol pedair a Llafur dwy, gyda sawl sedd eto i’w cadarnhau.

Y gred yw y bydd yr SNP ar y blaen gyda 63 o seddi, y Ceidwadwyr yn ail â 31, Llafur â 22, y Blaid Werdd â naw a’r Democratiaid Rhyddfrydol â phedair.

Rhybudd am annibyniaeth

Yn y cyfamser, mae ganddi rybudd i unrhyw un sy’n ceisio atal yr Alban rhag cynnal ail refferendwm annibyniaeth.

Dywed na fyddai unrhyw wleidydd sy’n ceisio gwneud hynny’n “dewis ymladd â’r SNP yn unig, ond… â dymuniadau democrataidd pobol yr Alban”.

Mae hi’n darogan y bydd mwyafrif o aelodau Senedd yr Alban o blaid annibyniaeth, a bod hynny’n fandad i fwrw ati.

“Felly, byddwn i’n dweud dau beth wrth unrhyw wleidydd yn San Steffan sy’n ceisio sefyll yn y ffordd,” meddai.

“Yn gyntaf, dydych chi ddim yn dewis ymladd â’r SNP yn unig, ond rydych chi’n dewis ymladd â dymuniadau democrataidd pobol yr Alban ac yn ail, fyddwch chi ddim yn llwyddo.

“Yr unig bobol sy’n gallu penderfynu dyfodol yr Alban yw pobol yr Alban, ac ni all ac ni ddylai unrhyw wleidydd San Steffan sefyll yn y ffordd.”

Dywed y dylai amseru’r refferendwm fod yn fater i Senedd yr Alban, ac nid “yn benderfyniad i Boris Johnson nac unrhyw wleidydd yn San Steffan”.