Mae dyn 45 oed o Geredigion wedi’i gyhuddo o dreisio.

Daw hyn ar ôl i’r heddlu fod yn chwilio am Saul Henvey o Dregaron yn ardal Llanbed ddydd Iau (Mai 6).

Bydd e’n mynd gerbron ynadon Aberystwyth yfory (dydd Llun, Mai 10).

Mae’r heddlu’n parhau i gefnogi’r dioddefwr, ac maen nhw wedi diolch i’r cyhoedd.

Arestio dyn ar ôl y chwilio mawr yn ardal Llanbed neithiwr

Dylan Lewis

Bu chwilio am ddyn mewn cysylltiad ag ymosodiad rhywiol