Ochr yn ochr ag etholiadau’r Senedd, mae pobol yng Nghymru hefyd wedi bod yn pleidleisio yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.
Mae’r cyfri wedi dechrau ym mhob ardal heddlu a bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach.
Mae pob un o’r Comisiynwyr heblaw am Arfon Jones (Gogledd) yn sefyll eto.
Dyma’r ymgeiswyr:
- Heddlu’r De: Mike Baker (Annibynnol), Steve Gallagher (Ceidwadwyr), Gail John (Propel), Calum Littlemore (Democratiaid Rhyddfrydol), Nadine Marshall (Plaid Cymru), Alun Michael (Llafur)
- Heddlu’r Gogledd: Pat Astbury (Ceidwadwyr), Andy Dunbobbin (Llafur), Ann Griffith (Plaid Cymru), Lisa Wilkins (Democratiaid Rhyddfrydol), Mark Young (Annibynnol)
- Heddlu Dyfed-Powys: Jon Burns (Ceidwadwyr), Dafydd Llywelyn (Plaid Cymru), Glyn Preston (Democratiaid Rhyddfrydol), Philippa Thompson (Llafur)
- Heddlu Gwent: Donna Cushing (Plaid Cymru), Jeff Cuthbert (Llafur), Paul Harley (Annibynnol), Hannah Jarvis (Ceidwadwyr), Clayton Jones (Gwlad), John Miller (Democratiaid Rhyddfrydol).
Beth yw’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd?
Mae pedwar Comisiynydd yng Nghymru, sef un ar gyfer pob heddlu – De, Gogledd, Dyfed-Powys a Gwent.
Mae’r Comisiynwyr yn cynnig llais i’r bobol ac yn dwyn yr heddlu i gyfrif er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cynrychioli’r bobol sydd wedi eu hethol nhw i’r swydd, a nhw sydd â’r cyfrifoldeb llwyr am blismona.
Un o’u prif ddyletswyddau yw ceisio lleihau torcyfraith, a sicrhau gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon o fewn ardal y llu maen nhw’n ei gynrychioli, gan weithio’n lleol ac yn enedlaethol er mwyn sicrhau undod o ran eu dulliau.
Mae adfer ffydd yn yr heddlu hefyd yn rhan bwysig o’r swydd, yn ogystal â gwella’r berthynas rhwng yr heddlu a’r gymuned.
Ymhlith eu dyletswyddau eraill mae:
- penodi’r Prif Gwnstabl a’u dwyn i gyfrif – ac mae modd iddyn nhw eu diswyddo hefyd
- gosod nodau ac amcanion heddlu a throsedd yn yr ardal drwy greu cynllun plismona a throsedd
- gosod cyllideb yr heddlu
- cyfrannu at alluoedd plismona’n genedlaethol a rhyngwladol sydd wedi’u gosod gan yr Ysgrifennydd Cartref yn San Steffan
- sicrhau cydweithio rhwng partneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol er mwyn sicrhau bod yna flaenoriaethau ar y cyd
Mae disgwyl hefyd i’r Comisiynwyr gadw at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Pwyllgor Nolan.
Mae gan bob Comisiynydd ei God Ymddygiad ei hun, ond mae fframwaith moesau i’w ddilyn yn ganolog, a hwnnw wedi’i greu ar y cyd gan y Comisiynwyr.
Yn ehangach, gall Comisiynwyr Heddlu a Throsedd hefyd chwarae rhan yn y Gwasanaeth Tân ym maes llywodraethu.