Mae’r unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn Senedd Cymru yn dweud nad yw hi eisiau bod yn weinidog mewn Llywodraeth Lafur.
Fe ddywedodd Jane Dodds, un o’r aelodau tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, nad oedd ganddi’r profiad i gymryd swydd o’r fath.
“A dw i ddim eisio fo chwaith,” meddai ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru. “Dw i eisiau canolbwyntio ar… weithio’n galed i bobol dros yr ardal.”
Y disgwyl yw y bydd Llafur yn chwilio am gefnogaeth un o’r pleidiau eraill er mwyn sicrhau llywodraeth sefydlog – maen nhw un sedd yn brin o gael mwyafrif clir.
“Dim digon o brofiad”
Y Democratiaid Rhyddfrydol oedd y dewis amlwg, gan fod eu cyn-aelod Kirsty Williams wedi bod yn weinidog yn y llywodraeth ddiwetha’.
Ond yn ôl Jane Dodds, sy’n aelod newydd sbon, does ganddi hi ddim o’r profiad oedd gan Kirsty Williams.
Dyw ei chyhoeddiad ddim o angenrheidrwydd yn golygu na allai’r Democratiaid Rhyddfrydol daro bargen i gefnogi Llywodraeth Lafur.
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd wedi gwneud yn glir ei fod am gydweithio, gan ddweud nad oes gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da.