Mae Keith Brown, dirprwy arweinydd yr SNP, yn dweud y bydd ail refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal yn yr Alban “pan fydd hi’n ddiogel” ar ôl y pandemig Covid-19.

Wrth siarad ar raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky, dywedodd nad oedd yn fodlon awgrymu amserlen ar hyn o bryd.

Ond dywedodd y byddai “ymgyrch lawn pan fydd yn ddiogel”, a bod yr holl sylw o hyd ar adferiad wedi’r pandemig a iechyd cyhoeddus yr Alban.

Y disgwyl yw y bydd y refferendwm yn cael ei gynnal erbyn 2024 pe bai sefyllfa’r feirws yn caniatáu.

“Ar yr adeg gynharaf bosib, pan fydd yn ddiogel ei wneud e, byddwn ni’n symud er mwyn cael y refferendwm hwnnw, yr un y gwnaeth yr Alban bleidleisio drosto fe mewn niferoedd enfawr,” meddai.

Refferendwm ‘ddim yn flaenoriaeth ar hyn o bryd’

Yn ôl Ian Murray, llefarydd materion yr Alban Llafur, dydy cynnal ail refferendwm annibyniaeth ddim yn flaenoriaeth ar hyn o bryd.

“Y peth pwysig i’w sylweddoli o’r etholiadau hyn, sy’n hanfodol i bob ochr o’r ddadl, yw fod yr Alban wedi’i hollti’n llwyr i lawr y canol,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Yn nhermau’r bleidlais etholaethol, cwympodd pleidiau o blaid annibyniaeth ychydig yn brin o 50% ac ar y rhestr ranbarthol fe gawson nhw ychydig dros 50%, felly mae’r Alban wedi’i hollti’n llwyr i lawr y canol.”

Dywedodd na fyddai Llafur yn cefnogi unrhyw fesur i geisio ail refferendwm yn ystod adferiad Covid-19, ac mai’r adferiad fyddai “unig ffocws” y blaid am y tro.

‘Awn ni ddim i fan’no’

Mae Michael Gove, gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, yn gwrthod dweud a fyddai Llywodraeth Prydain yn ceisio dwyn achos yn erbyn Nicola Sturgeon pe bai’n cynnal ail refferendwm.

“Awn ni ddim i fan’no,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Roedd canlyniad yr etholiadau hyn yn orchymyn i wleidyddion: diolch am y rhaglen frechu, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno hynny ledled y wlad, nawr plis canolbwyntiwch ar adferiad.”

Dywedodd fod y mwyafrif wedi pleidleisio dros bleidiau sy’n gwrthwynebu refferendwm annibyniaeth ac nad oedd Nicola Sturgeon “wedi sicrhau mwyafrif fel y gwnaeth Alex Salmond yn 2011” a bod hynny’n “wahaniaeth arwyddocaol”.

Dywedodd ymhellach nad yw pobol yr Alban “yn ysu rhagor am refferendwm”.