Mae pobol yn Sbaen a Chatalwnia yn dathlu diwedd yr argyfwng Covid-19 ar ôl chwe mis o ansicrwydd.

Wrth i’r cloc daro deuddeg, heidiodd pobol i’r strydoedd a’r traethau yn Barcelona wrth i sawl cyrffiw ddod i ben.

Ym Madrid, fe fu’n rhaid i’r heddlu symud torfeydd o sgwâr Puerta del Sol, lle’r oedden nhw’n dawnsio ac yn canu, ac mae’r golygfeydd bywyd nos wedi bod yn debyg i’r hyn y bydden nhw wedi bod cyn y pandemig.

Mae rhai pobol yn cyfaddef eu bod nhw’n teimlo’n ofnus, ond maen nhw’n dathlu eu rhyddid serch hynny ac yn dyheu am fod yng nghwmni pobol eraill.

Mae bwytai bellach yn cael gweini bwyd heddiw (dydd Sul, Mai 9) ac maen nhw’n cael bod ar agor tan 11 o’r gloch y nos, ond dim ond pedwar o bobol sy’n cael eistedd wrth y bwrdd, a does dim hawl gan fwytai lenwi i fwy na 30% o’u huchafswm niferoedd.

Mae cyfyngiadau teithio hefyd wedi dod i ben, ac mae rheolau ar gyfarfod yn ystod oriau’r nos wedi cael eu llacio.

Dim ond pedair ardal sy’n dal yn destun cyrffiw erbyn hyn.

Mae Llywodraeth Sbaen wedi gwrthod ymestyn yr argyfwng er iddyn nhw gael eu beirniadu.

Yn ôl y prif weinidog Pedro Sanchez, dylai’r cyfyngiadau presennol fod yn ddigon i atal ymlediad pellach ar lefel ranbarthol, a hynny wrth i fwy o bobol gael eu brechu.

Er bod lefelau’r haint yn cwympo ledled Sbaen, mae cyfraddau’r brifddinas Madrid a Gwlad y Basg ddwywaith yn uwch na Sbaen ar y cyfan.

Mae mwy nag un ym mhob pump o wlâu gofal dwys ledled Sbaen wedi’u neilltuo ar gyfer cleifion Covid-19.