Mae Boris Johnson wedi gwahodd Nicola Sturgeon am drafodaethau brys ar ddyfodol yr Undeb.

Daw hyn ar ôl iddi rybuddio prif weinidog Prydain na all e geisio atal ewyllys pobol yr Alban a democratiaeth drwy wrthod rhoi’r hawl i’r wlad gynnal ail refferendwm annibyniaeth.

Mae’r SNP un sedd yn brin o fwyafrif yn Holyrood wedi etholiadau Senedd yr Alban, gan ennill cyfanswm o 64 o seddi ac mae yna fwyafrif o blaid annibyniaeth o gynnwys y pleidiau eraill.

Wrth siarad wedi buddugoliaeth yr SNP, dywedodd Nicola Sturgeon fod y canlyniadau’n profi bod pobol yr Alban eisiau annibyniaeth, gan rybuddio bod unrhyw wleidydd oedd yn mynnu sefyll yn y ffordd “yn dewis ymlad â dymuniadau democrataidd pobol yr Alban”.

Ond mewn llythyr ati, mae Boris Johnson wedi dweud bod y Deyrnas Unedig “ar ei gorau pan ydyn ni’n cydweithio”, ac mae’n galw am sgwrs am “yr heriau sy’n gyffredin” o ran adferiad Covid-19.

Gwahoddiad

Yn ei lythyr, mae Boris Johnson wedi gwahodd Nicola Sturgeon i “ymuno â fi, fy nghydweithwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac eraill mewn uwchgynhadledd i drafod yr heriau sy’n gyffredin i ni a sut y gallwn ni gydweithio dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i’w goresgyn”.

Dywedodd ei fod yn hyderus fod modd “dysgu oddi wrth ein gilydd” er nad oes sicrwydd y bydd modd “cytuno bob amser”.

Daw’r gwahoddiad wrth i Robert Jenrick, Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan, rybuddio y byddai’n “gamgymeriad difrifol” cynnal ail refferendwm a thynnu’r sylw oddi ar yr adferiad Covid-19.

Cymru

Yn y cyfamser, mae Boris Johnson wedi llongyfarch Mark Drakeford ar fuddugoliaeth Llafur yng Nghymru mewn sgwrs dros y ffôn.

Yn ei lythyr ato, dywed Boris Johnson, “Rydym ein dau yn rhannu ffydd ym mhotensial enfawr ein Deyrnas Unedig – i fod yn rym dros ddaioni yn y byd ac i fod yn injan ar gyfer sicrwydd a llewyrch i’w thrigolion yma gartref”.

Mae Mark Drakeford wedi galw am “drwsio perthnasau” â’r gwledydd datganoledig, gan ddweud bod angen gwneud mwy na “chyhwfan baneri Jac yr Undeb ar ben adeiladau”.

Dywed fod angen “perthnasau parchus go iawn” rhwng y pedair senedd â’u sofraniaeth eu hunain er mwyn iddyn nhw allu cydweithio.

Mae’n dweud mai “dyna’r math o Deyrnas Unedig sydd â’r siawns orau o oroesi” ac y byddai honno’n Deyrnas Unedig “lle mae pobol eisiau bod yn hytrach na chael eu gorchymyn i fod”.