Fe fydd Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, yn ad-drefnu ei gabinet cysgodol ar ôl diswyddo’r cadeirydd Angela Rayner, sydd hefyd yn ddirprwy arweinydd y blaid.
Daw hyn yn dilyn etholiadau siomedig i’r blaid yn Lloegr.
Mae’r arweinydd dan y lach am ddiswyddo Angela Rayner, oedd yn gyfrifol am gydlynu ymgyrch etholiadol y blaid – ymhlith y rhai sy’n feirniadol mae Andy Burnham, Maer Manceinion Fwyaf.
Yn ogystal â’r gwaith o ad-drefnu ei gabinet, mae Starmer hefyd wedi penodi Deborah Mattinson, awdur llyfr ar Lafur yn colli’r etholiad cyffredinol yn 2019, yn Gyfarwyddwr Strategaeth y blaid.
Ildiodd Llafur sawl cyngor i’r Ceidwadwyr, gan gynnwys Hartlepool – y tro cyntaf i’r Ceidwadwyr ennill yno ers sefydlu’r etholaeth yn y 1970au.
Mae’r blaid hefyd wedi colli rheolaeth ar Gyngor Durham am y tro cyntaf ers dros ganrif, ac mae arweinydd Cyngor Sheffield wedi colli ei swydd i’r Blaid Werdd.
Maen nhw hefyd wedi colli yn Rotherham a Sunderland.
Fe fu cryn ffrae, yn enwedig am y canlyniad yn Hartlepool, ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am strategaeth y blaid.
Cyfrifoldeb pwy?
Mae’r Blaid Lafur yn dweud y bydd Angela Rayner, cyn-weithiwr cymdeithasol o Stockport yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn parhau i fod yn aelod blaenllaw o’r blaid er iddi gael ei diswyddo.
Ond mae nifer wedi beirniadu’r penderfyniad i’w symud o’i swydd yn gadeirydd y blaid.
“Alla i ddim cefnogi hyn,” meddai Andy Burnham, sydd ymhlith y ffefrynnau i olynu Syr Keir Starmer yn y pen draw.
“Mae hyn, yn syml, yn anghywir os yw’n wir.”
Mae nifer o gefnogwyr Jeremy Corbyn, y cyn-arweinydd, yn cyhuddo’r arweinydd presennol o wneud Angela Rayner yn “fwch dihangol”.
Mae Diane Abbott yn dweud bod y penderfyniad yn “astrus” tra bod John McDonnell yn dweud ei fod yn “gamgymeriad enfawr”.
Yn ôl Anas Sarwar, arweinydd Llafur yr Alban, bydd Angela Rayner yn cael cynnig “swydd wahanol” yn y cabinet cysgodol ac mae’n rhaid i’r blaid “gyd-dynnu” er mwyn ceisio brwydro i ddod i rym eto.
Er gwaetha’r siom o golli etholiad cyffredinol 2019, mae Diane Abbott wedi galw ar Syr Keir Starmer i ddychwelyd at y maniffesto hwnnw.