Mae NUI Galway wedi cael eu cyhuddo o “amharchu” yr iaith Wyddeleg ar ôl lleihau’r gofynion ieithyddol ar gyfer eu staff.

Mewn datganiad, mae mudiad Misneach yn cydnabod fod y brifysgol yn anfon negeseuon cyhoeddusrwydd yn ddwyieithog, ond maen nhw’n dweud bod eu “harferion ieithyddol yn anghyson”, yn ogystal â bod yn “wasgarog eu meddwl ac yn ddifeddwl”.

Maen nhw’n dadlau bod y penderfyniad i leihau’r gofynion ieithyddol ar gyfer eu staff yn “tanseilio” yr ymdrech i sicrhau arwyddion dwyieithog, cynllun iaith Scéim Teanga a’r polisi iaith Wyddeleg “nad yw’n ein bodloni ni”.

Maen nhw’n dweud bod lleihau’r gofynion yn “sarhad ac yn slap yn wyneb staff y brifysgol sydd wedi bod yn ddiwyd wrth ddysgu’r Gaeilge ac yn mynd ar gyrsiau, yn amlach na pheidio y tu allan i’w horiau gwaith ac allan o’u pocedi eu hunain”.

Ar y llaw arall, maen nhw’n dweud nad oes gan undeb y myfyrwyr “unrhyw fath o bolisi ieithyddol o gwbl”, ac maen nhw’n “aml yn anfon negeseuon uniaith Saesneg wrth hysbysebu digwyddiadau a gweithgareddau”.

Gwrth-Wyddeleg?

“Efallai eu bod nhw’n credu eu bod nhw’n gynhwysol wrth ddiystyru’r iaith Wyddeleg yn y fath gyhoeddiadau?” meddai’r mudiad wedyn.

“Mae’r gwrthwyneb llwyr yn wir gan eu bod nhw’n diystyru rhan sylweddol o’r gymuned o fyfyrwyr ac yn amddifadu myfyrwyr nad ydyn nhw’n siarad y Wyddeleg o’r cyfle i weld a chyfathrebu ag elfennau iaith Wyddeleg eu prifysgol.

Mae Comhaltas na Mac Léinn eisoes wedi profi eu bod nhw, ar y cyfan, yn gorff gwrth-Wyddeleg sydd ag obsesiwn ynghylch arian, elw a grym.

“Fe wnaethon nhw gau Caife na Gaeilge yn Áras na Gaeilge oherwydd eu hanallu ariannol a diwylliannol eu hunain, gan roi’r bai ar reolwyr a’r bobol fach wrth y cownter.”

Maen nhw’n dweud mai dim ond ar ôl cryn wrthwynebiad gan fyfyrwyr ac ymyrraeth yr awdurdodau y gwnaethon nhw “sylweddoli eu byrbwylltra”, pan oedd rhai yn bygwth talu eu ffioedd myfyrwyr blynyddol a phenderfynu agor “yr unig le uniaith” ar gyfer yr iaith Wyddeleg ar y campws “os nad yn Galway gyfan”.

Maen nhw’n dweud bod yr agweddau gwrth-Wyddeleg “yn adlewyrchu Gweriniaeth Iwerddon gyfan”, ac yn cyhuddo’r brifysgol o “ddifetha ein cymuned Gaeilge a’n sarhau ddydd ar ôl dydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn”.

Maen nhw’n galw am “safle diogel a pharhaus i’r Wyddeleg, o ran y cwricwla, y staff a’r gwasanaethau mae’r brifysgol yn gyfrifol amdanyn nhw”, a hefyd am Siarter y Brifysgol i sicrhau hawliau i siaradwyr a dyfodol yr iaith o fewn y sefydliad.

“Rydym yn barod i gymryd camau radical i gyflawni’r nod yma,” meddai wedyn.