Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi amddiffyn canlyniadau siomedig ei blaid yn etholiadau’r Senedd gan ddweud eu bod nhw wedi gorfodi Mark Drakeford a’r Blaid Lafur i “fod yn fwy radical” ar fater datganoli ac ymreolaeth i Gymru.

Roedd y Blaid wedi bod yn ymgyrchu yn yr etholiad gan wthio’r ymgyrch tros annibyniaeth ac er iddyn nhw ddal eu gafael ar eu seddi diogel yn y Fro Gymraeg, digon siomedig oedd y canlyniadau mewn ardaloedd llai traddodiadol, gan golli’r Rhondda i’r Blaid Lafur wrth i Leanne Wood golli ei sedd.

Serch hynny, mae Adam Price yn mynnu mai fe yw’r arweinydd i symud y Blaid yn ei blaen, a’u bod nhw wedi cael “ymgyrch bositif iawn” sydd wedi newid y drafodaeth am ddyfodol datganoli yng Nghymru.

“Gwelson ni lawer iawn o bobol yn dod draw i Blaid Cymru am y tro cyntaf, yn enwedig pleidleiswyr ifanc a dw i wedi bod yn cyfarfod â nhw yn ystod y bore,” meddai wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.

“Yn amlwg, doedd y canlyniadau ddim mor llwyddiannus ag y bydden ni wedi gobeithio, ond dw i’n credu ein bod ni wedi hau llawer iawn o hadau ar gyfer y dyfodol.”

Leanne Wood ac arweinyddiaeth y Blaid

Pan heriodd Adam Price yr arweinydd ar y pryd, Leanne Wood, i gael arwain Plaid Cymru, roedd e’n galw am newid gan nad oedd hi’n bosib iddi ddod yn brif weinidog.

Dywedodd y byddai’n “drasiedi” pe bai Plaid Cymru’n colli etholiad ond erbyn hyn, mae’n dweud bod yr etholiad diweddaraf wedi’i golli yn sgil y pandemig Covid-19 am nad oedd y Blaid wedi gallu ymgyrchu yn y gymuned a churo ar ddrysau.

“Wel, allai neb ohonom fod wedi gallu rhagweld bryd hynny y pandemig rydyn ni newydd fod drwyddo fe, a dyna gyd-destun yr etholiad yma, on’d yfe?” meddai.

“Yn ddealladwy, fe wnaeth llawer iawn, iawn o bobol, wrth ddewis rhwng newid – roedd y rhaglen drawsnewidiol gynigion ni i bobol yng Nghymru wedi ysbrydoli llawer iawn o bobol – pan oedd yn ddewis rhwng hynny a pharhad, mae’n ddealladwy dw i’n meddwl yn yr amgylchiadau hyn y byddai llawer iawn o bobol wedi dewis parhad.

“Rydyn ni wedi gweld yn Lloegr a’r Alban rym y drefn bresennol a pharhad ar yr adeg hon.

“Felly roedd y gefnlen yn hynod ddylanwadol ond dw i’n dal i deimlo bod y dyfodol yn ddisglair iawn, daeth pobol ifanc i’r Blaid mewn niferoedd di-gynsail, fe wnaethon nhw ymateb i’n neges o ddyfodol positif i Gymru.

“Felly dw i’n meddwl ein bod ni wedi gosod y seiliau ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol ond…”

Newid ei neges am ‘drasiedi’?

Mae’n dweud erbyn hyn fod colli’r etholiad yn destun “siom a thristwch”, ond fod arwyddion cadarnhaol ar gyfer y dyfodol a sefyllfa’r Blaid er mwyn ymladd yr etholiadau nesaf.

“Nid yn unig o ran yr hyn mae’n ei olygu i fi na’r Blaid, ond mae Cymru a phobol Cymru yn bwysig i fi,” meddai.

“Ga i ddweud, y peth ro’n i’n teimlo oedd mor bwysig yn yr etholiad hwn oedd rhoi rhywfaint o obaith i bobol y gall y dyfodol fod yn well na’r gorffennol.

“Wrth gwrs fy mod i’n teimlo’n siomedig ac yn rhwystredig na fydda i’n awr yn gallu cyflwyno’r newid hwnnw i lawer iawn o bobol wnes i gyfarfod â nhw mewn cymunedau ledled Cymru sy’n galw am drawsnewid.

“Ein rôl ni fel gwrthblaid adeiladol nawr yw cyflwyno’r achos hwnnw a cheisio rhoi cymaint o bwysau ar y Llywodraeth Lafur â phosib, ac mae angen eu llongyfarch nhw ar yr hyn oedd yn ganlyniad llwyddiannus iawn.

“Ond mae angen newid a gobaith ar y cymunedau hynny a fy rôl bwysig i nawr yw defnyddio’r lleisiau a’r llwyfan sydd gyda ni nawr i geisio cyflwyno’r newid hynny.”

Y Fro Gymraeg

Roedd y Blaid yn llwyddiannus yn y Fro Gymraeg gan gynyddu eu cyfran o’r bleidlais.

Ond roedden nhw’n llai llwyddiannus mewn seddi targed fel Llanelli ac mae’n debyg mai’r canlyniad mwyaf siomedig oedd colli Leanne Wood yn y Rhondda, sydd wedi dychwelyd unwaith eto i ddwylo’r Blaid Lafur ar ôl ei chanlyniad annisgwyl hithau y tro diwethaf.

“Roedden nhw’n ganlyniadau siomedig iawn, yn enwedig colli fy ffrind Leanne Wood yn y Rhondda,” meddai Adam Price wedyn.

“Rhaid i fi dalu teyrnged i’w hymgyrch hi a’r ymgyrchwyr lleol, roedd yr ymdrech a’r egni yn yr ymgyrch honno’n anhygoel.”

Er gwaetha’r siom, mae’n dweud bod arwyddion positif mewn llefydd fel Wrecsam.

“Gwnaethon ni gynyddu 9% o’n pleidlais, felly roedd llefydd lle’r ydyn ni wedi adeiladu ar gyfer llwyddiant,” meddai, gan ddweud y bydd y Blaid bellach yn troi eu sylw at osod sylfeini mewn mwy o gymunedau.

“Fy ngwaith dros y flwyddyn nesaf cyn yr etholiadau lleol yw adeiladu strwythurau lleol i’r blaid.”

“Y gwahaniaeth oedd y pandemig, doedden ni ddim wedi gallu canfasio.

“Fe wnaethon ni sylweddoli, hyd yn oed pe bai’n cael ei ohirio am fis, fydden ni ddim wedi gallu gwneud yr hyn roedden ni am ei wneud yn y flwyddyn cyn yr etholiad.

“Doedden ni ddim wedi gallu cael sgyrsio â phobol a phan ydych chi’n blaid fel ein plaid ni sydd heb bocedi dyfn, yr hyn rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw’n llwyr yw gwirfoddolwyr yn siarad ar stepen y drws.

“Lle gwnaethon ni hynny, fe wnaeth pobol ymateb yn dda i’n neges.

“Ond doedden ni ddim wedi gallu ei wneud e yn y ffordd roedden ni am ei wneud e, felly roedd gyda ni gynllun a doedd hi ddim yn bosib cyflwyno’r cynllun hwnnw oherwydd y pandemig.

“Gobeithio na fyddwn ni yn yr un sefyllfa yn yr etholiad nesaf ac y bydd hynny’n rhoi cyfle i ni gael y sgyrsiau positif hynny.

“Rhaid edrych yn y tymor hir ac edrych ar y darlun cyflawn – yr hyn sydd gyda ni yn y Senedd nawr yw mwyafrif o blaid mwy o bwerau.

“Rydyn ni wedi gweld diwedd y pleidiau asgell dde oedd am ddiddymu ein Senedd.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i weld wrth galon canlyniad yr etholiad hwn yw pleidlais gref o hyder mewn ymreolaeth i Gymru a chael Llywodraeth Cymru.

“Mae cynnydd ymhlith pobol ifanc ar gyfer annibyniaeth felly o edrych ar y darlun mawr, yn nhermau pwrpas Plaid Cymru sef nid yn unig un etholiad ond cyflwyno dyfodol i Gymru sydd yn ein dwylo ni.”

Pwyso ar Lafur?

Am y tro, bydd rhaid i Blaid Cymru fodloni ar barhau i fod yn wrthblaid, ond mae Adam Price yn dweud bod cyfle nawr i bwyso ar y Llywodraeth o ran datganoli a mwy o bwerau.

“Datblygu achos Cymru ac mae angen ffurfio Llywodraeth a dyna fyddwn ni’n canolbwyntio arno dros y pedair neu bum mlynedd nesaf,” meddai.

“Ond lle mae gennym ni rôl yw datblygu achos Cymru ac wrth gymryd safbwynt radical ar y cwestiwn cenedlaethol, yr hyn rydyn ni wedi’i wneud yn yr etholiad hwn yw gorfodi’r Blaid Lafur a Mark Drakeford i fod yn fwy radical yn nhermau ymreolaeth i Gymru nag y bydden nhw wedi bod.”

Ai Adam Price yw’r person gorau i wneud hynny o hyd? ‘Ie’, yn ôl yr arweinydd.

“Bydd yr hadau rydyn ni wedi’u hau yn yr etholiad hwn yn blodeuo yn y blynyddoedd i ddod a dw i am wneud popeth o fewn fy ngallu yn y dyddiau, wythnosau, misoedd a blynyddoedd i ddod i wireddu’r potensial gwych hwnnw sydd gyda ni fel cenedl.”

Teyrnged i Leanne Wood

Ar yr un rhaglen, fe wnaeth Delyth Jewell, sydd wedi dychwelyd i sedd ranbarthol yn y Senedd, dalu teyrnged i Leanne Wood, gan geisio cynnig rheswm am ei siom.

“Yn amlwg, byddai’r ffaith fod Leanne wedi bod yn arweinydd y tro diwethaf wedi helpu ei phroffil, ond mae hi wedi bod môr… bob tro mae hi’n siarad yn y Senedd, mae hi’n sôn am y Rhondda,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl y gallai hi fod wedi bod yn gwneud mwy ei hun.

“Mae cynifer o wahanol ffactorau sydd wedi dod gyda’i gilydd yn yr etholiad hwn, dw i ddim yn meddwl y gall ddod i lawr i un person yn y modd yna.”