Mae canlyniadau’r bleidlais ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throsedd heddluoedd Cymru i gyd wedi’u cyhoeddi erbyn hyn.

Fe fu’n ddiwrnod llwyddiannus i Lafur, wrth iddyn nhw ddal eu gafael ar ardaloedd Gwent (Jeff Cuthbert) a’r De (Alun Michael), a chipio’r Gogledd (Andy Dunbobbin) oddi ar Blaid Cymru ar ôl i Arfon Jones gamu o’r rôl.

Roedd peth llwyddiant i Blaid Cymru, fodd bynnag, wrth i Dafydd Llywelyn ddal ei afael ar ardal Dyfed-Powys.

Cafodd y bleidlais ei chynnal fesul rownd, gyda’r ddau ymgeisydd ar y brig ar ddiwedd y rownd gyntaf yn symud ymlaen i’r ail rownd ac yn mynd ben-ben i gael eu hethol yn Gomisiynydd.

Y canlyniadau terfynol

Mae Alun Michael (Llafur) wedi’i ailethol yn Gomisiynydd Heddlu’r De ar ôl cael buddugoliaeth ysgubol gyda 64% o’r bleidlais – sy’n cyfateb i gyfanswm o 225,463 o bleidleisiau.

Roedd e ymhell ar y blaen i Steve Gallagher (Ceidwadwyr) ar ôl cyfri’r pleidleisiau dewis cyntaf, oedd wedi gorffen â chyfanswm o 127,844 ar ôl cyfri’r pleidleisiau ail ddewis (102,465 ar ôl y dewis cyntaf).

“Dw i’n falch o fod wedi cael cefnogaeth yr etholwyr ar draws de Cymru ac o fod wedi cael fy ailethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd am y trydydd tro,” meddai.

“Mae cryn dipyn wedi’i gyflawni yn ystod rhai blynyddoedd anodd iawn i blismona ond dw i’n awyddus iawn i ni adeiladu ar y seiliau cadarn rydyn ni wedi’u rhoi yn eu lle, a byddaf yn dweud mwy yn fuan am fy nghynlluniau a’m huchelgais ar gyfer y tair blynedd nesaf.”

Dafydd Llywelyn yw Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys o hyd ar ôl trechu’r Ceidwadwr Jon Burns wedi i’r pleidleisiau ail ddewis gael eu cyfri.

Enillodd e 94,488 o bleidleisiau, o gymharu â 77,408 i Jon Burns.

Dafydd Llywelyn
Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys

“Dw i’n hynod falch o gael fy ailethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd i chi,” meddai.

“Fel eich Comisiynydd presennol, daeth plismona rheng flaen cyn gwleidyddiaeth erioed.

“Mae gen i record gref wrth wireddu fy addewidion ac wrth wrando ar gymunedau Dyfed-Powys.

“Dw i’n falch o’r hyn dw i wedi’i gyflawni ers 2016, ond mae cymaint i’w wneud o hyd.

“Eich diogelwch chi yw fy mhrif flaenoriaeth.

“Dw i eisiau sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn parhau’n un o’r llefydd mwyaf diogel i fyw yng Nghymru a Lloegr.”

Andy Dunbobbin (Llafur) yw Comisiynydd newydd Heddlu’r Gogledd, wrth i’r swydd symud o ddwylo Plaid Cymru.

Enillodd e gyfanswm o 98,034 o bleidleisiau, tra bod Pat Astbury wedi ennill 90,149.

Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Arfon, wedi ymateb i’r canlyniad erbyn hyn.

Ac mae Llafur wedi cadw eu gafael ar Heddlu Gwent, ar ôl i Jeff Cuthbert gael ei ailethol.

Enillodd e gyfanswm o 92,616 tra bod Hannah Jarvis (Ceidwadwyr) wedi ennill 60,536 o bleidleisiau.

Dewis cyntaf

Dyma oedd y sefyllfa ar ôl cyfri’r pleidleisiau dewis cyntaf:

  • Heddlu Dyfed-Powys

Y Ceidwadwr Jon Burns oedd ar y blaen ar ôl y bleidlais gyntaf ar gyfer Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys.

Roedd hi’n ras rhyngddo fe a deilydd presennol y rôl, Dafydd Llywelyn o Blaid Cymru.

Roedd gan Burns 69,112 o bleidleisiau a Llywelyn 68,208 ar ôl y rownd gyntaf.

  • Heddlu’r Gogledd

Ras rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr oedd hi yn ardal Heddlu’r Gogledd, wrth iddyn nhw frwydro i olynu Arfon Jones (Plaid Cymru).

Andy Dunbobbin oedd yr ymgeisydd Llafur ac roedd ganddo fe 69,455 o bleidleisiau o’r rownd gyntaf, ond roedd gan Pat Astbury (Ceidwadwyr) 75,476.

Roedd hynny’n golygu bod Mark Young (Annibynnol), Ann Griffith (Plaid Cymru) a Lisa Wilkins (Democratiaid Rhyddfrydol) allan o’r ras.

Dyma ymateb Ann Griffith i’w chanlyniad siomedig:

  • Heddlu’r De

Ras rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr oedd hi yn ardal Heddlu’r De hefyd, gyda’r Comisiynydd presennol Alun Michael (Llafur) a Steve Gallagher (Ceidwadwyr) yn mynd amdani.

Alun Michael – 177,110

Steve Gallagher – 102,465

Dyma’r rhai oedd allan ohoni ar ôl cyfri’r pleidleisiau cyntaf:

Nadine Marshall – Plaid Cymru: 82,246

Mike Baker – Annibynnol: 37,110

Callum Littlemore – Democratiaid Rhyddfrydol: 19,907

Gail John – Propel: 13,263

  • Heddlu Gwent

Roedd Llafur ymhell ar y blaen yn ardal Heddlu Gwent hefyd, ac roedd hi’n ras rhwng eu hymgeisydd nhw, y deilydd Jeff Cuthbert a Hannah Jarvis (Ceidwadwyr).

Jeff Cuthbert – 75, 775

Hannah Jarvis – 52,313

Roedd yr ymgeiswyr canlynol allan o’r ras:

Donna Cushing (Plaid Cymru) – 29,392

Paul Harley (Annibynnol) – 13,601

John Miller (Democratiaid Rhyddfrydol) – 7,640

Clayton Jones (Gwlad): 2,615

Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Cymru’n ethol Comisiynwyr Heddlu a Throsedd

… ond beth yn union yw eu rôl?