Byddai Llafur Cymru’n croesawu “Uwchgynhadledd go iawn ar yr Undeb”, yn ôl Julie James, y Gweinidog Tai Llafur yn y Senedd ddiwethaf.
Daw ei sylwadau ar raglen Sunday Politics Wales y BBC ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wahodd y prif weinidog Mark Drakeford a Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP a phrif weinidog yr Alban, am drafodaethau ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn dilyn yr etholiadau diweddaraf.
Yn ei lythyr atyn nhw, mae Johnson yn dweud bod y Deyrnas Unedig “ar ei gorau” wrth i’r pedair gwlad gydweithio, ac mae’n crybwyll “heriau sy’n gyffredin” rhwng y gwledydd yn sgil y pandemig Covid-19.
Mae Llafur Cymru wedi cael eu canlyniadau gorau erioed yn y Senedd – un sedd yn brin o fwyafrif clir – tra bod yr SNP un sedd yn brin o fwyafrif clir yn Holyrood ond mae gan yr Alban fwyafrif o blaid annibyniaeth serch hynny.
‘Tîm y DU’
“Dw i’n gobeithio’n fawr ei fod e’n un go iawn,” meddai Julie James am y gwahoddiad i gynnal trafodaethau ar ddyfodol yr Undeb.
“Byddem yn ei groesawu pe bai e.
“Rydyn ni wedi bod yn galw ers blynyddoedd lawer am uwchgynhadledd gyfansoddiadol go iawn, lle’r ydyn ni’n cael trafodaeth go iawn am rôl datganoli ledled y Deyrnas Unedig, o fewn y Deyrnas Unedig.
“Rydyn ni’n croesawu hynny’n fawr.
“Rydych chi wedi clywed arweinwyr ein plaid ni ers blynyddoedd lawer yn dweud pa mor angenrheidiol yw hynny.”
Mae’n dweud bod yna “ddyhead” am ddatganoli.