Mae Cabinet Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod am y tro cyntaf ers yr etholiad heddiw (Mai 10) i drafod cyfyngiadau Covid.

Mae Mark Drakeford wedi amlinellu cynlluniau i ganiatáu i dafarndai a bwytai wasanaethu cwsmeriaid tu mewn o Fai 17 yn barod, ac mae un gweinidog wedi dweud y bydd y Cabinet yn trafod gwyliau tramor heddiw.

Ddydd Sul, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James, fod gwyliau tramor yn “rhan fawr o’r pecyn trafod ar gyfer ddydd Llun,” wrth siarad gyda’r BBC.

Lefel 3

Heddiw (Mai 10), fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau fod y wlad yn symud i gyfyngiadau Lefel 3 yn dilyn cyfarfod gyda phrif swyddogion meddygol gwledydd y Deyrnas Unedig.

Yn dilyn cyngor gan y Gydganolfan Bioddiogelwch, ac ar sail y data diweddaraf, cytunodd Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig y dylai’r lefel rhybudd ar draws y Deyrnas Unedig ostwng o Lefel 4.

Dywedodd y swyddogion fod ymdrechion y cyhoedd i gadw pellter, ac effaith y rhaglen frechu, wedi arwain at ostyngiad mewn nifer marwolaethau, ac wedi lleihau’r pwysau oddi ar ysbytai.

Ar hyn o bryd mae yna 8.6 o achosion o Covid-19 i bob 100,000 person yng Nghymru, y raddfa isaf ers mis Awst.

Fodd bynnag, maen nhw’n atgoffa pobol fod Covid-19 yn dal i gylchredeg, a bod angen parhau i ddilyn canllawiau.

Yn ogystal, maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd derbyn dau ddos o’r brechlyn pan ddaw’r cynnig.

Pwysleisiodd y swyddogion fod y rheolau ar ymbellhau cymdeithasol yn parhau mewn grym o dan Lefel 3, a bod rhaid gwisgo mygydau dan do.

Nid yw’n bosib cyfarfod ag unrhyw un mewn cartrefi preifat ar hyn o bryd, oni bai am y rheiny sy’n rhan o’r aelwyd estynedig.

Y sefyllfa gyfredol

Mae campfeydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio wedi bod ar agor eto am wythnos yng Nghymru yn dilyn llacio’r cyfyngiadau Covid-19 ymhellach ar 3 Mai.

Mae gweithgareddau dan do i blant a dosbarthiadau ffitrwydd oedolion dan do wedi ailddechrau ac mae dwy aelwyd yn gallu ffurfio swigen unigryw a chyfarfod dan do.

Mae disgwyl cyhoeddiad ar unrhyw leddfu pellach ddydd Gwener (14 Mai) yn dilyn y trafodaethau heddiw.

Does dim cynlluniau ar deithio rhyngwladol wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ond dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU Grant Shapps ei fod yn disgwyl y bydd y rheolau “yn weddol debyg” i’r rhai ar gyfer twristiaid o Loegr.

Galwadau’r sector lletygarwch

Yn yr adolygiad nesaf ddydd Gwener, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fod atyniadau tu mewn, sinemâu, a theatrau yn cael ailagor wythnos i heddiw (dydd Llun, Mai 17).

Mae disgwyl y bydd tafarndai a bwytai yn cael gwasanaethu cwsmeriaid tu mewn hefyd.

Mewn llythyr cyhoeddus, mae’r Welsh Independent Restaurant Collective wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lacio’r rheolau ar gyfer y sector lletygarwch.

Mae’r grŵp, sy’n cynrychioli dros 400 o gaffis, tafarndai, bwytai, a gwestai, yn dweud fod angen ailymweld â’r cydbwysedd rhwng masnachu’n rhydd a’r angen am gymorth ariannol.

Ynghyd â galw am ganiatáu i unrhyw chwe pherson eistedd gyda’i gilydd tu mewn, mae’r grŵp yn galw am grantiau ailddechrau ar gyfer busnesau’r sector.

Mae’r llythyr hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddangos eu bod nhw’n bwriadu cael gwared ar holl gyfyngiadau “sylweddol” y sector erbyn diwedd mis Mehefin.

Tirwedd gwleidyddol newydd

Enillodd y Blaid Lafur 30 o 60 sedd y Senedd, a mae disgwyl i Mark Drakeford arwain llywodraeth leiafrif eto.

Mae disgwyl y bydd Mark Drakeford yn cael ei benodi’n ffurfiol fel Prif Weinidog ddydd Mercher (Mai 12), a bydd ad-drefnu’r cabinet yn digwydd yn fuan wedi hynny.

Fel yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol i gael ei hethol i’r Senedd, mae eu harweinydd, Jane Dodds, wedi dweud na fydd hi’n ymuno â chlymblaid.

Y Democratiaid Rhyddfrydol oedd y dewis amlwg ar gyfer ffurfio llywodraeth gyda mwyafrif, gan fod eu cyn-aelod Seneddol, Kirsty Williams, yn Weinidog Addysg yn y Llywodraeth ddiwethaf.

Collodd y Blaid Lafur un sedd etholaethol i’r Ceidwadwyr, a chipiodd y Blaid Lafur y Rhondda oddi wrth Blaid Cymru, gan ennill sedd Leanne Wood.

Er colli’r un sedd yn Nyffryn Clwyd, enillodd Llafur hanner y seddi gyda’r Ceidwadwyr yn ennill 16 – eu perfformiad gorau erioed – Plaid Cymru 13, a’r Democratiaid Rhyddfrydol un.

Mae Mark Drakeford wedi addo llywodraeth “radical ac uchelgeisiol”.

Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Garmon Ceiro

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Etholiad Senedd 2021 – dydd Sadwrn

Yr holl ymateb i ganlyniadau etholiad y Senedd