Mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer wedi rhoi’r sac i ganghellor yr wrthblaid a’r brif chwip wrth iddo ail-strwythuro yn dilyn perfformiad gwael y blaid yn yr etholiadau lleol yn Lloegr.

Mae Rachel Reeves wedi cael ei dyrchafu’n ganghellor yr wrthblaid fel rhan o’r ad-drefnu o dîm Keir Starmer. Mae hi’n olynu Anneliese Dodds sydd wedi cael ei gwneud yn gadeirydd y blaid.

Cafodd dirprwy arweinydd y blaid Angela Rayner ei diswyddo fel cadeirydd y blaid a chydlynydd yr etholiadau ddydd Sadwrn ar ôl i Lafur golli’r isetholiad yn Hartlepool i’r Ceidwadwyr.

Fe fydd hi’n cymryd lle Rachel Reeves fel changhellor yr wrthblaid i Ddug Lancaster.

Aelod Seneddol Birmingham Ladywood, Shabana Mahmood, fydd cydlynydd ymgyrch genedlaethol y blaid.

Mae Angela Rayner hefyd wedi cael cyfrifoldebau eraill yn yr ad-drefnu gyda Llafur yn cadarnhau mai hi fydd ysgrifennydd gwladol cyntaf yr wrthblaid.

“Rhoi llais i’r dosbarth gweithiol”

Wrth ymateb ar Twitter, dywedodd Angel Rayner y byddai’n “gweithio’n ddiflino i adfer y blaid er mwyn dangos bod y Blaid Lafur “yn rhoi llais i’r dosbarth gweithiol.”

Mae Nick Brown hefyd wedi cael ei ddisodli fel prif chwip yr wrthblaid gydag Alan Campbell yn ei olynu, tra bod Thangam Debbonaire wedi cael ei symud i fod yn arweinydd Tŷ’r Cyffredin y blaid. Mae’n cymryd lle Valerie Vaz, sydd wedi colli ei lle yn y cabinet. Bydd Lucy Powell yn cymryd rôl ysgrifennydd tai’r wrthblaid.

Mae Lisa Nandy, yn parhau’n Ysgrifennydd Tramor cysgodol.

Dywedodd Keir Starmer bod canlyniadau’r etholiad yng Nghymru a’r Alban yn yr etholiadau ddydd Iau wedi rhoi “optimistiaeth ac ysbrydoliaeth” i’r blaid ar gyfer y dyfodol. Ond ychwanegodd y byddai “angen syniadau beiddgar a ffocws di-baid ar flaenoriaethau pobl Prydain” i adennill grym unwaith eto.

“Yr her i ni nawr yw adeiladu ar y llwyddiannau hyn a dysgu o’r lleoedd y gwnaethon ni eu colli,” meddai Keir Starmer.

“Newidiadau cosmetig”

Serch y newidiadau yng nghabinet Llafur, fe rybuddiodd cyn-arweinydd y blaid Jeremy Corbyn, sydd wedi cael ei wahardd o’r blaid, bod “ail-drefnu a newidiadau cosmetig” yn annhebygol o ddenu pleidleiswyr yn ôl.

Wrth ysgrifennu yn The Independent, mae Jeremy Corbyn wedi galw am ddod a pholisïau o faniffesto Llafur yn 2017 yn ôl, gan gynnwys cenedlaetholi’r Post Brenhinol a ffioedd prifysgol rhad ac am ddim.

Dywedodd Jon Trickett AS, cyn-gydlynydd ymgyrch y blaid, na ddylid diystyru her am arweinyddiaeth Llafur yn dilyn canlyniadau siomedig yr etholiad.

Yn dilyn y perfformiad gwael mae Keir Starmer wedi penodi Deborah Mattinson fel cyfarwyddwr strategaeth. Mae hi’n gyn-ymgynghorydd i Tony Blaid a Gordon Brown, cyn-arweinyddion y blaid.

Fe fu sawl ergyd i’r blaid yn yr etholiadau lleol, gan golli nifer o gynghorau, a cholli sedd Hartlepool i’r Torïaid am y tro cyntaf ers 1959.

Ond fe fu llwyddiant i’r blaid yn yr etholiadau maerol, gan gipio 11 o’r 14 swydd ar draws Lloegr.