Mae Nicola Sturgeon wedi gwrthod ildio ar gynnal ail refferendwm annibyniaeth, a dywedodd wrth Boris Johnson fod canlyniadau’r etholiad yn yr Alban yn golygu fod refferendwm yn sicr o gael ei gynnal.
Yn ystod galwad ffôn gyda’r Prif Weinidog yn San Steffan, dywedodd Nicola Sturgeon ei fod yn “fater o pryd – nid os”, wedi i’r Alban ethol mwyafrif o aelodau sydd o blaid annibyniaeth i Holyrood.
Dywedodd Michael Gove, aelod o gabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fod ei Lywodraeth ddim yn barod i ganiatáu refferendwm arall wedi i’r SNP fethu â sicrhau mwyafrif.
Yn ôl Michael Gove, roedd y canlyniad yn awgrymu “nad yw’n achos fod pobol yr Alban yn awyddus am refferendwm”, gan fod yr SNP un sedd yn fyr o gael mwyafrif.
Fe wnaeth e annog yr SNP i “ganolbwyntio ar adferiad” wedi’r pandemig.
Ond, mewn trafodaeth â Boris Johnson ddoe (Mai 9), dywedodd Nicola Sturgeon fod canlyniad yr etholiad yn golygu fod ail refferendwm yn anochel.
“Pryd – nid os”
Enillodd yr SNP 64 o seddi wedi’r etholiad – un yn fyr o fwyafrif, ond un yn fwy na’r etholiad diwethaf – enillodd y Ceidwadwyr 31, Llafur 22, y Blaid Werdd 8, a’r Democratiaid Rhyddfrydol 4.
Yn ogystal â’r SNP, mae’r Blaid Werdd hefyd yn cefnogi annibyniaeth i’r Alban.
“Fe ddywedodd y Prif Weinidog yn glir y byddai’n canolbwyntio ar lywio’r wlad drwy Covid a thuag at adferiad i ddechrau, ac y byddai llywodraeth etholedig newydd yr Alban yn gweithio gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig cyn belled â phosib wrth geisio’r nod hwnnw,” meddai llefarydd ar ran Nicola Sturgeon.
“Fe wnaeth y Prif Weinidog ailadrodd ei bwriad i sicrhau fod pobol yr Alban yn cael dewis eu dyfodol pan fydd yr argyfwng drosodd, a’i gwneud yn glir fod y cwestiwn ynghylch refferendwm yn fater o pryd – nid os.”
Dywedodd Downing Street fod Boris Johnson wedi dirwyn y sgwrs gyda Nicola Sturgeon i ben drwy “bwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio ar adfer wedi Covid nawr”.
Fe wnaeth “mwyafrif” o Albanwyr “bleidleisio dros bleidiau sy’n gwrthwynebu refferendwm” meddai Michael Gove wrth The Andrew Marr Show, a mynnodd fod y cyhoedd eisiau “swyddi a brechlynnau” nid “trafodaethau ar y cyfansoddiad”.