Gallai amhariadau i wasanaethau trên barhau am ddyddiau ar ôl i graciau gael eu darganfod mewn rhai cerbydau, yn ôl y Grŵp Rail Delivery.

Cafodd 800 o drenau Hitachi eu tynnu oddi ar y cledrau ddydd Sadwrn (Mai 8) “fel rhagod”, ar ôl i nam gael ei ddarganfod ar rai o’r trenau.

Mae Rheilffordd y Great Western yn cynghori pobol gyda thocynnau ar gyfer siwrnai pell i “beidio teithio” heddiw (Mai 10), gan “nad oes gwasanaeth, neu mae’r gwasanaeth yn gyfyngedig iawn” rhwng Llundain, Bryste, Abertawe, Penzance, Henffordd, a Cheltenham Spa. 

Mae Rheilffordd y London North Eastern yn rhedeg peth o’u gwasanaethau ar hyd arfordir Dwyrain Lloegr rhwng Llundain a Chaeredin heddiw.

Fe wnaeth Rheilffordd y Great Western a’r Rheilffordd y London North Eastern gynghori pobol i beidio â theithio ddoe hefyd, ac roedd y gwasanaethau rhwng Caerdydd, Abertawe, a Llundain ymhlith y rhai i gael eu canslo.

“Amhosib dweud pa mor hir”

“Gyda’r archwilio cychwynnol yn dod i ben erbyn diwedd y dydd heddiw (Mai 10), rydyn ni’n disgwyl i’r amhariadau barhau am ychydig o ddyddiau,” meddai cyfarwyddwr rhanbarthol y Grŵp Rail Delivery wrth y BBC.

“Mae’n amhosib i fi ddweud pa mor hir yn union fydd hynny’n ei gymryd, ond rydyn ni’n amlwg yn mynd drwy hyn mor sydyn â phosib, ond nid ydyn ni eisiau rhuthro.

“Rydyn ni eisiau sicrhau fod pob un o’r trenau’n cael eu harchwilio’n fanwl, yn pasio, ac yn cael eu rhoi’n ôl ar y cledrau pan fydd pethau’n barod, ond mae’n ddigon posib y bydd hyn yn cael effaith ar rai o’r amserlenni nes dechrau’r wythnos nesaf,” meddai Robert Nisbet.

Dywedodd nad oedd y craciau, sy’n filimetrau o hyd, “yn achosi unrhyw beryg penodol i deithwyr oedd yn teithio ar y trenau, ond os nad ydych chi’n mynd i’r afael â materion fel hyn yn gynnar yna mae ganddyn nhw’r potensial i ddatblygu”.

Diogelwch yw’r “blaenoriaeth cyntaf”

Fe wnaeth Hitachi Rail ymddiheuro am yr amhariadau ddydd Sadwrn, wedi i wiriadau arferol ddod o hyd i’r craciau.

Ychwanegodd fod rhai o’r trenau wedi pasio’r archwiliad, ac yn iawn i’w rhedeg yn ol yr arfer.

“Diogelwch yw ein blaenoriaeth gyntaf, ac fel rhagofal, fe wnaed y penderfyniad i atal mynediad i wasanaethau ein trenau rhyng-drefol nes eu harchwilio,” meddai llefarydd ar ran Hitachi Rail.

“Rydyn ni’n deall y rhwystredigaeth mae hyn wedi’i achosi, a hoffwn ymddiheuro am unrhyw anhwylustod sydd wedi’i achosi i deithwyr a gyrwyr.

“Wedi cael eu pasio ar gyfer gwasanaethu, mae rhai o’r trenau yn teithio dros y rhwydwaith eto.”