Mae disgwyl i bobl gael cofleidio, a bwyta tu mewn i fwytai a chaffis gael ei ganiatáu yn Lloegr wythnos nesaf, wrth i Boris Johnson gyhoeddi mesurau ar gyfer llacio’r rheolau yno.

Bydd gweinidogion yn cynnal cyfarfod fore heddiw (Mai 10) er mwyn penderfynu ar y camau nesaf.

O Fai 17, bydd y rhan fwyaf o fesurau ynghylch cyfarfod yn yr awyr agored yn cael eu codi, ond bydd cyfarfodydd gyda mwy na 30 o bobol yn parhau yn anghyfreithlon yn Lloegr.

Tu mewn, bydd chwe pherson neu ddwy aelwyd yn cael cyfarfod, ac mae Michael Gove wedi awgrymu y bydd gan bobol hawl i gofleidio teulu a ffrindiau.

Mae disgwyl y bydd y sector lletygarwch yn ailagor tu mewn, yn ogystal â lleoliadau adloniant megis sinemâu, a gweddill y sector gwyliau.

Bydd mesurau eraill yn cynnwys caniatáu i hyd at 30 o bobol fynychu priodasau, derbyniadau, ac angladdau, yn dod i rym yn Lloegr hefyd.

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yr ystadegau diweddaraf yn awgrymu na fydd llacio’r cyfyngiadau ar Fai 17 yn debygol o achosi cynnydd mewn achosion Covid.

“Rydyn ni’n parhau i ddilyn ein hamserlen, mae ein rhaglen frechu lwyddiannus yn parhau – mae mwy na dau draean o oedolion y Deyrnas Unedig wedi cael eu dos cyntaf – a gallwn edrych ymlaen at ddatgloi yn ofalus, ond yn ddi-droi’n-ôl,” meddai Boris Johnson.