Bydd mwy o arlwy nag erioed ar fwydlen Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024, wrth iddi ddychwelyd i’r dref am y seithfed tro ar Fai 11.

Yn ychwanegol i’r stondinau bwyd, diod, crefft a chynnyrch lleol, a’r tri llwyfan cerddoriaeth, bydd dwy ardal newydd sbon yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon eleni, sef Pentref Bwyd Môr, ac ardal arbennig i deuluoedd yn Dros yr Aber.

Mae’r ŵyl, sy’n rhad ac am ddim ac yn cael ei threfnu’n llwyr gan wirfoddolwyr, hefyd yn dod yn fwyfwy adnabyddus am ei harlwy cerddorol.

Eleni, bydd Bob Delyn a’r Ebillion a Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas yn perfformio, yn ogystal â pherfformwyr lleol gan gynnwys Magi Tudur a Geraint Løvgreen a’r Band, a hyd at ddeg o gorau lleol drwy gydol y dydd ar lwyfan y corau.

Hwyl dros yr Aber i deuluoedd

Mae’r ddwy ardal newydd yn beth “cyffrous iawn” i drefnwyr yr ŵyl, medd un ohonyn nhw, Nici Beech, sy’n gadeirydd Pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon.

“Mae nifer fawr o deuluoedd yn dod i’r ŵyl felly roedd yn gam naturiol i ddatblygu’r ardal yma ym Mharc Coed Helen, dros yr Aber yn dilyn digwyddiad hynod lwyddiannus yno ym mis Medi llynedd,” meddai.

“Rydan ni wedi ail-leoli lloc anifeiliaid Coleg Glynllifon yno, ac yn ogystal â stondinau bwyd a diod a bariau, mi fydd yr ardal yn llawn diddanwch trwy gydol y dydd yng nghwmni staff lleol yr Urdd a Byw’n Iach.

“Yn ogystal â hynny, bydd gweithgaredd celf a chrefft a digon o adloniant a cherddoriaeth, gan gynnwys neb llai na Cati a Gruff o griw Cyw!”

Er mwyn dod â’u gweledigaeth yn fyw, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi cydweithio ag artist lleol, Iestyn Tyne, sydd wedi creu darn o gelf sy’n cyfleu amrywiaeth yr arlwy fydd ar gael yn ‘Hwyl Dros yr Aber.’

Pentref Bwyd Môr

Prif atyniad yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal yng nghanol tref Caernarfon yn flynyddol ers 2016, yw’r bwyd, gyda thros 120 o stondinau bwyd a diod eleni yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.

“Rydan ni wrth ein boddau yn cael stondin yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon,” meddai Margaret Ogunbanwo, perchennog Maggie’s African Twist.

“Mae yna bob amser awyrgylch anhygoel yn y dref ar y diwrnod, ac mae’n gyfle nid yn unig i werthu llawer iawn o gynnyrch ond hefyd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.”

Bydd Pentref Bwyd Môr yr ŵyl i’w weld am y tro cyntaf eleni yng Nghei Llechi, wedi’i drefnu mewn cydweithrediad ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.

“A ninnau ar lan y Fenai, be’ well na phentref bwyd môr?” meddai Nici Beech.

“Mi fydd y pentref yn cynnwys arddangosfeydd coginio a llwyth o weithgareddau difyr yn ymwneud â’r môr mawr gan gynnwys celf ryngweithiol a cherddoriaeth.”

Galw am gyfraniad gan ymwelwyr

Yn ôl amcangyfrifon, mae costau’r ŵyl bellach oddeutu £50,000.

Y llynedd, heidiodd dros 35,000 o bobol i Gaernarfon ar gyfer y diwrnod.

“Petai pob ymwelydd â’r ŵyl yn rhoi £3 yr un, mi fyddai hynny’n talu am yr ŵyl!” meddai Nici Beech.

Mae modd rhoi arian parod mewn bwcedi, neu roi’n uniongyrchol trwy PayPal ar y diwrnod, neu unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.