Mae’r salad lliwgar hwn yn adlewyrchu’r Hydref i’r dim ac yn llawn cynhwysion tymhorol blasus. Dyma salad bendigedig i’w fwynhau fel pryd neu ei luchio mewn bocs bwyd ar gyfer cinio yn y gwaith. Mae’n iach, yn syml ac yn tynnu dŵr i’r dannedd, a gallwch ei greu mewn munudau. Mae’r rysáit yma yn brawf nad oes rhaid i salad fod yn ddiflas!
Bydd angen:
Cêl
Pomgranad
Afalau
Olew
Hadau pwmpen
Cnau pecan
Surop (‘golden’ cyffredin)
Caws feta
Tsili (plu hipotle sych)
Rocket
Sbigoglys
Mango wedi ei sychu
Nionyn
Coginio
Rhowch y cnau ar hadau mewn padell i’w rhostio am oddeutu 10 munud ar wres isel
Tra bo’r hadau’n rhostio, rhowch y salad at ei gilydd gan ofalu rhoi digonedd o olew a halen ar y cêl
Torrwch afalau yn sleisus tenau a’u hychwanegu at y gwyrddni, ynghyd â hadau pomgranad a’r surop.
Wedi i’r hadau a’r cnau rostio, cymysgwch nhw yn y salad gyda rhagor o olew a digonedd o gaws feta, pupur a halen.
Mwynhewch y wledd dymhorol hon!
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.
Mwynhewch y sgrifennu… a’r darllen!
Darllenwch ein canllawiau ar gyfrannu i’r adran Safbwynt