Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw.

Y gogyddes, awdur ac arbenigwr bwyd Nerys Howell sydd wedi bod yn rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae Nerys yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Pnawn Da ar S4C ac mewn gwyliau bwyd ar draws Cymru. Mae hi wedi ysgrifennu sawl llyfr coginio gan gynnwys Cywain, a Bwyd Cymru yn ei Dymor. Cafodd ei magu yn y Rhondda ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae ei mab, Aron Snowsill, yn faethegydd a’i merch Elinor Snowsill yn gyn-chwaraewr rygbi…


Mae’n rhyfedd achos do’n i ddim yn dda iawn yn bwyta fel plentyn, ro’n i’n ffysi iawn a byddai mam yn trio pob math o driciau i fy nghael i fwyta. Do’n i ddim yn licio llaeth fel plentyn a dal ddim yn licio llaeth rŵan. Dw i’n cofio trio yfed y poteli bach o laeth yn yr ysgol a bydde’r crât wedi bod tu fas i’r dosbarth ers oriau a’r llaeth yn gynnes a finne jest ffili yfed e. Ar ddydd Sul bydden ni’n cael cinio ac wedyn yn mynd i’r Ysgol Sul. A’r pwdin ar ddydd Sul oedd pwdin reis a doeddwn i ddim yn hoffi fe. Ac ar ôl yr Ysgol Sul, ro’n i tua thair blwydd oed ar y pryd, dyma nhw’n dweud bo fi wedi bod yn dawel iawn. Dim ond wedyn wnaethon nhw ddarganfod mod i wedi cael llond ceg o bwdin reis yr holl amser..!

Er ein bod ni’n byw yn y Rhondda, roedd fy rhieni yn dod o’r gorllewin a tad-cu a mam-gu o’r ddwy ochr yn ffermio. Byddai fy rhieni yn rhedeg y siop yn Nhonypandy a bydden ni’n treulio’r gwyliau ar y fferm. Pan oedden nhw’n dod i ladd mochyn doedden ni ddim yn cael mynd allan ond roedden ni’n gallu clywed y sŵn ac wedyn gweld y cig yn hongian o’r trawstiau a tad-cu yn torri coes i ffwrdd a sleisen o’r goes yn mynd yn syth i’r ffrimpan i frecwast. Roedden ni’n cael bwyd ffres yn syth o’r pridd, ac mae hynny’n un o’r dylanwadau cyntaf i fi – mae wedi dylanwadu fi trwy gydol fy oes, a dyna pam dw i mor angerddol am hyrwyddo bwyd o Gymru a bwyd yn ei dymor, a hynny oherwydd yr amseroedd wnes i dreulio ar y fferm.

Jam cartre ydy un o hoff fwydydd Nerys

Roedd fy mam, ei chwiorydd a fy mam-gu i gyd yn hoffi coginio popeth o scratch. Byddai Mam-gu yn crasu bara bob dydd a trît i ni oedd cael torth o fara siop. Mae’n trît i gael bara cartre’ erbyn hyn. Felly mae dylanwad Mam-gu ar y ddwy ochr a’r modrybedd, ac ry’n ni gyd fel teulu yn coginio ac yn dal i wneud bwyd ffres, lleol yn eu tymor. Bydden nhw’n gwneud jamiau a siytni a gwinoedd a lemonêd a dw i dal wrth fy modd yn gwneud jam a siytni – cadw’r ffrwythau a’r llysiau oedd yn eu tymor a’u bwyta yn y gaeaf.

Os dw i eisie bwyd cyflym sy’n rhoi cysur dw i’n troi at fara, dw i wrth fy modd efo bara ond rhaid iddo fod yn fara cartre’, efo menyn hallt Cymreig a jam cartre’ fel eirin duon neu riwbob. Dw i wrth fy modd efo bara surdoes. Mae bara jam yn rhywbeth bydden ni’n cael ar ôl ysgol.

Swper y cybydd – haenau o datws, winwns, a moron a darn o gig moch i gyd wedi’u coginio gyda’i gilydd yn y ffwrn

Dw i hefyd yn hoffi ham wedi’i ferwi a’i rostio a chael sleisen ohono efo saws persli – sydd bron yn wyrdd – a thato yn syth o’r pridd, a moron. Mae’n fwyd cysurlon, plaen traddodiadol ond i gyd o ansawdd da. A rhaid cael winwns wedi’u berwi ar y plât hefyd. Dw i’n berwi’r winwn gyfan gyda’r tatws ac mae’n rhoi blas sawrus bendigedig. Ambell waith wna’i swper y cybydd, fel byddai Mam yn ei alw – haenau o datws, winwns, a moron a darn o gig moch i gyd wedi’u coginio gyda’i gilydd yn y ffwrn.

Fy mhryd delfrydol fyddai pysgod ffres o’r môr. Un o’n hoff bysgod yw torbwt – sy’n cael ei alw’n “brenin y pysgod”. Dw i’n ei hoffi wedi’i goginio’n reit syml yn y ffwrn neu ar farbeciw gyda lemwn a pherlysiau a thatws newydd a cinabêns o’r ardd. Mae’r lleoliad yn ychwanegu at y pryd hefyd, felly lleoliad yn edrych dros y môr fyswn i’n dewis. Mae gen i atgofion o fod yng Ngwlad Groeg efo ffrind a gweld y pysgod yn dod mewn ar y cychod ac fe fyddai ar eich plât o fewn oriau. Dw i wedi cael sawl pryd hyfryd yn y Griffin yn Dale yn Sir Benfro hefyd sy’n gweini pysgod ffres – maen nhw’n stemio’r pysgod a ddim yn ei or-goginio.

Dw i’n cofio bod ym Mhortmeirion yn dathlu pen-blwydd priodas Mam a Dad – a Dad wrth ei fodd efo bwyd môr ond Mam ddim. A wnaethon ni archebu platiad arbennig o fwyd môr, oedd yn cynnwys cimwch, cranc, wystrys, a chregyn gleision, ac roedd fy Nhad yn y nefoedd, a finnau hefyd. Ac, wrth gwrs, roedd harddwch naturiol golygfeydd Portmeirion wedi creu naws arbennig ac mae hynny wedi aros yn y cof.

Fel plentyn bydden ni’n fforio lot – casglu mwyar, llus, madarch, eirin duon, dail surion, a dw i dal wrth fy modd yn fforio. Mae Aron [ei mab] wedi etifeddu’r hoffter hefyd. Roedd Dad bob amser yn awyddus i gadw un darten o fwyar ar gyfer y Nadolig ac felly bydden ni’n rhewi’r darten ond rhaid bod e’n dod mas adeg y Nadolig a byddai’r darten yn ein hatgoffa ni o’r haf. Dw i hefyd wrth fy modd efo rhiwbob cynta’r flwyddyn.

Dw i’n dueddol o drio gwahanol ryseitiau ac arbrofi pan mae pobl yn dod aton ni, ond mae ysgwydd cig oen yn ffefryn. Dw i’n mwydo’r cig oen dros nos mewn cymysgedd o lemwn, garlleg, rhosmari, bara lawr a bach o olew olewydd ac wedyn ei goginio’n araf ac mae jest yn treiddio drwy’r cig. O ran y teulu, mae’r plant wrth eu boddau efo cinio dydd Sul Mam a chyw iâr fydda’i yn gwneud fel arfer ond gyda grefi arbennig. Dw i’n coginio’r winwns yn eu crwyn efo’r cyw iâr, a lemwn a theim a gwneud grefi efo hwnna.

Mae Nerys yn hoffi gwneud tarten afal sydd efo dylanwad Ffrengig

Mae gen i ddant melys a dw i’n cofio Mam-gu yn gwneud tarten afal a rhoi clofs yn y crwst ond ro’n i’n casáu clofs, mae’r blas mor gryf pan yn blentyn. Ond roedd fy Nhad wrth ei fodd a fe. Erbyn hyn, dw i’n gwneud tarten afal sydd efo dylanwad Ffrengig, ac yn defnyddio almonau mâl gyda’r afal, a chrwst filo a thywallt brandi afal drosto cyn ei weini. Mae’n fendigedig!

Ysgwydd o gig oen Cymreig PGI gyda rhosmari, lemwn a bara lawr

Ysgwydd o gig oen Cymreig PGI gyda rhosmari, lemwn a bara lawr

Arferai nifer o gogyddion arbrofi gyda bara lawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan ei weini gyda rhost cig dafad Cymreig mewn saws a wnaed gyda sudd oren. Mae’r rysáit hon yn fersiwn cyfoes o hwnnw.

Ar gyfer 6  |  Paratoi 10 munud |  Coginio 4-5 awr 

Cynhwysion

ysgwydd o gig oen Cymreig heb asgwrn wedi’i rowlio, tua 1.6kg

4 llwy fwrdd o olew olewydd

4 ewin garlleg, wedi’u pilio

2 lwy fwrdd o sbrigau rhosmari ffres

llond llaw o ddail mintys ffres

1 lemwn, y croen a’r sudd

Halen Môn a phupur du

2 lwy fwrdd o fara lawr

1 llwy fwrdd o fêl

Dull

Rhowch yr olew, y garlleg, y perlysiau a chroen a sudd y lemwn mewn prosesydd bychan a chyfuno popeth.  Ychwanegwch y bara lawr at y cymysgedd ynghyd â halen a phupur.

Gwnewch dyllau bychan dwfn yn y cig oen a gwthio’r cymysgedd i’r tyllau, yn ogystal â’i daenu dros arwyneb y cig. Rhowch y cig mewn tun rhostio, ei orchuddio a’i adael yn yr oergell am 3 awr neu dros nos.

Cynheswch y ffwrn i 190°C/Nwy 5.

Tynnwch y tun rhostio o’r oergell a gadael y cig am hanner awr tan y bydd yn cyrraedd gwres yr ystafell, ac yna’i roi yn y ffwrn i rostio am 30 munud. Yna trowch y tymheredd i lawr i 170°C/Nwy 3 a choginio am 3½ – 4 awr, gan ddefnyddio’r sudd i gadw’r cig yn wlyb bob yn hyn a hyn.

Tynnwch y cig o’r tun rhostio a’i roi ar blât gweini cynnes tra byddwch chi’n gorffen gwneud y sudd.

Codwch y saim oddi ar y sudd a dod â’r cyfan i’r berw. Chwisgiwch y mêl i mewn, ychwanegu halen a phupur a’i weini gyda’r cig oen.