Mae hi’n benwythnos unwaith eto, ac yng nghawodydd Ebrill does gen i ddim awydd mentro i ganol y pyllau am y siop, felly dw i’n penderfynu torchi fy llewys, troi’r miwsig i fyny, a chychwyn tyrchu drwy’r cypyrddau…
Mi fydd hwn yn benwythnos diog; penwythnos lle dw i’n penderfynu defnyddio’r hyn sydd gen i, ac nid prynu er mwyn prynu… Bendith gweithio fel hyn ydi ’mod i’n gallu bod mor greadigol â dw i awydd, a dyna’r hwyl. Mae’n gyfle hefyd i ddefnyddio cynhwysion ffres. Hawdd hefyd os oes gennych chi damaid yn weddill i’w gadw at ddiwrnod arall.
*Un ychwanegiad blasus os ydach chi’n licio ydi malu creision poeth yn fân e.e. Doritos sbeislyd, a’u hychwanegu i’r pasta. Mae’n dod â crunch diddorol i’r pryd.
Yr hyn fydd ei angen:
Pasta
Pupur melyn, oren a coch
Nionyn coch
Salsa
Cambozola (neu gaws o’ch dewis – *bydd eich dewis o gaws yn allweddol i flas y pryd hwn!*)
Oregano
Coginio
Bydd angen berwi tua phedair llond llaw o basta
Tra bo’r pasta’n berwi, torrwch nionyn coch yn fân, a phupur melyn, oren a coch
Wedi i’r pasta ferwi, gwagiwch y dŵr a rhoi’r pasta mewn powlen Pyrex
Cymysgwch y salsa yn y bowlen â’r pupur a’r nionyn coch
Ychwanegwch bupur a halen yn ôl eich ffansi
Nawr, bydd angen gratio Cambozola (neu gaws o’ch ddewis) a’i osod ar y pasta
Cynheswch y cyfan nes bod y caws wedi’i feddalu
Cymerwch binsiad da o Oregano, a’i wasgaru ar hyd y cyfan.
Mwynhewch!