Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Jess Lea-Wilson, cyfarwyddwr brand cwmni Halen Môn, sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Cafodd y cwmni ei sefydlu gan ei rhieni, Alison a David Lea-Wilson, yn 1996. Mae’r teulu Lea-Wilson wedi ysgrifennu llyfr coginio Sea Salt: A Perfectly Seasoned Cookbook, ac roedd Jess a’i rhieni hefyd wedi ysgrifennu Do Sea Salt: The Magic of Seasoning. Mae Jess yn byw ar Ynys Môn…
Un o fy atgofion cyntaf ydy fy Nhaid yn gwneud wyau wedi’u berwi’n berffaith i fi, a’u gweini nhw mewn cwpan wy arbennig gyda thost i’w dipio ynddyn nhw.
Mae Mam yn gogyddes ardderchog, yn gwneud popeth ei hun, ac mae fy Nhad wrth ei fodd yn tyfu llysiau, felly roeddwn i bob amser yn ymwybodol o ble roedd y cynhwysion yn dod, a gwybod beth i’w wneud gyda nhw. Ond dros y blynyddoedd, wrth ddechrau a datblygu Halen Môn fel busnes, mae diddordeb fy nheulu i gyd mewn bwyd wedi cynyddu. Rŵan, rydan ni’n tueddu i fwcio gwyliau ar sail marchnad fwyd arbennig, rhyw gynhwysyn anarferol, neu fwyty penodol. Does dim yn rhoi mwy o lawenydd i fi na mynd i archfarchnad pan dw i dramor. Mae fy mrawd hefyd yn hoffi coginio cig oen Eryri gyfan adeg y Pasg dros dân agored (er fy mod i’n llysieuwraig!). Felly mae’n saff dweud bod ganddon ni gyd ychydig o obsesiwn efo bwyd.
Roedd mac and cheese wastad yn ffefryn pan o’n i’n blentyn, felly mae’n gysur pur i fi. Dw i wrth fy modd yn rhoi sôs garlleg du Halen Môn ar yr ochr. Mae polenta yn ffefryn arall, ac mae gynnon ni rysáit ar gyfer polenta cartref ffres yn ein llyfr coginio dw i wrth fy modd efo.
Fy mhryd bwyd delfrydol fyddai noson o haf yng ngardd fy rhieni, yng nghwmni’r bobl (a’r cŵn) dw i’n eu caru. Gwydraid oer o fizz – dw i wrth fy modd efo Crémant, neu beint o gwrw (Cwrw Llŷn) ac yna amrywiaeth o bethau bach hallt, fel olifs tew, creision olew olewydd, ac ambell dafell o Pan Con Tomate gyda digon o Halen Môn. (Bara Catalaneg ydy Pan Con Tomate, sydd wedi’i dostio a’i rwbio gyda garlleg a thomato, ac wedyn olew olewydd da iawn ar ei ben.) Wedyn, pasta syml, a rhywbeth fel tiramisu, neu ffrwythau ffres, fel ceirios Cymreig, i ddilyn.
Mae’r haf i fi yn golygu picnics ar draethau Ynys Môn. Yn aml byddwn ni’n gwneud brechdanau, mewn focaccia hallt, wedi’u stwffio â phicls cartref, a chawsiau lleol a’u bwyta mewn llecynnau bach tawel neu ar y traeth o flaen Halen Môn [ym Mrynsiencyn]. Dw i’n caru’r Nadolig ac wrth fy modd efo traddodiadau’r teulu, fel cacen Nadolig Mam, y tatws rhost gorau, blinis bach gyda gwahanol topins ac, wrth gwrs, mae’n rhaid cael trochiad yn y môr ar draeth Niwbwrch a Siampên i ddilyn.
Wnes i brynu popty pizza bach y llynedd, a dw i wrth fy modd yn coginio i ffrindiau, a gadael i bawb ddewis eu topins eu hunain. Mae llawer o syniadau yn ein llyfr coginio ar gyfer topins fel harissa a lemwn, a thatws, asbaragws a chennin.
Dwi’n hoffi unrhyw lyfrau coginio gan y gogyddes Anna Jones – mae hi’n athrylith. Ond y llyfrau wnaeth ddysgu fi sut i goginio oedd rhai Mary Berry. Mae hi’n bâr saff o ddwylo.