Mae angen i Gymru gael cynllun ar gyfer bwydo’r boblogaeth yn y dyfodol, medd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cenhedlaeth newydd o gynhyrchwyr lleol sy’n tyfu bwyd cynaliadwy ac iach, a chreu strategaeth fwyd hirdymor, yn ôl Derek Walker.
Mae cael cynllun yn “hollbwysig” i sicrhau bod y bobol fwyaf difreintiedig a chenedlaethau’r dyfodol yn gallu bwydo’u hunain, meddai.
Mewn digwyddiad fory (Ebrill 16), bydd y comisiynydd yn dod â phobol ynghyd i weld sut i amddiffyn pobol yng Nghymru rhag prinder bwyd a chynnydd eithafol mewn prisiau bwyd yn y dyfodol.
‘Mater llesiant mawr’
Yn ôl Derek Walker, gallai strategaeth fwyd gynnwys:
- Cynllun cenedlaethol sy’n hyrwyddo systemau bwyd lleol.
- Gwella cadwyni cyflenwi bwyd iach lleol.
- Mwy o gefnogaeth i Bartneriaethau Bwyd Lleol.
- Cynnwys ffermwyr a gwneud y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhan o’r strategaeth.
- Rhoi byd natur wrth galon popeth.
- Datblygu dulliau arloesol o dyfu bwyd.
“Mae diogelwch bwyd yn fater llesiant mawr na allwn ddianc rhagddo, ac mae ar Gymru angen cynllun i bobol gael mynediad at fwyd iach, fforddiadwy am genedlaethau i ddod,” meddai Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
“Rhaid i sicrwydd bwyd fod yn rhan greiddiol o strategaeth fwyd newydd i Gymru sy’n ein hamddiffyn yn erbyn tlodi bwyd, sydd eisoes yn cynyddu, yn wyneb rhyfel parhaus, newid hinsawdd a rhwystrau masnach.
“Rhaid i ni ofalu am y systemau naturiol sy’n darparu ein bwyd – yr anghenion dynol mwyaf sylfaenol – a bydd cynllunio’n iawn ar gyfer sut y byddwn ni’n bwyta hefyd yn mynd i’r afael â rhai o broblemau mawr eraill Cymru, wrth gefnogi ein priddoedd a’n dŵr glân.
“Gyda meddwl arloesol, gan ddefnyddio’r caniatâd mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei roi i ni wneud pethau gwahanol, gan gynnwys ffermwyr ac arbenigwyr eraill megis grwpiau cymunedol, mae’n bosibl newid y system i addasu i’n hanghenion cyfnewidiol.”
‘Tlodi bwyd a dyfodol ffermio’
Mae’r Athro Tim Lang, fydd yn siarad yn nigwyddiad ‘Food Shocks: Is Wales prepared for an uncertain food future?’ yng Nghaerdydd, yn dweud nad yw gwledydd Prydain yn barod ar gyfer unrhyw “siociau” bwyd, a allai arwain at silffoedd gwag a phrisiau uwch.
Ar hyn o bryd, mae Canada a’r Almaen yn drafftio cynlluniau bwyd, tra bod Ffrainc yn ei gwneud hi’n ofynnol i ddinasoedd gael cynlluniau i fwydo eu poblogaethau, ac mae gan Lithwania a’r Swistir gronfeydd bwyd cenedlaethol wrth gefn.
Caiff y digwyddiad fory ei gynnal ar y cyd â Our Food 1200, a dywed Duncan Fisher o’r cwmni bod mynd i’r afael â diogelwch bwyd yn uno buddiannol ledled Cymru – “ffermio, tlodi bwyd; gwledig a threfol”.
“Rhaid i strategaeth fwyd fynd i’r afael â dau fater bwyd mawr ein hoes, tlodi bwyd a dyfodol ein ffermio,” meddai.
‘Wynebu her’
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n croesawu ffocws Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar fwyd.
“Oherwydd newid hinsawdd, mae Cymru a gweddill y byd yn wynebu her ar ddiogelwch bwyd,” meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.
“Mae ein system fwyd yn hynod lwyddiannus o ran darparu digon o fwyd. Mae’n soffistigedig ac yn gweithredu ledled y Deyrnas Unedig gyda chysylltiadau masnachu rhyngwladol pwysig.
“Fodd bynnag, mae’n rhaid i bob un ohonom gydnabod bod y system fwyd yn sbardun mawr i broblemau byd-eang hefyd ac rydym yn croesawu ffocws Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar fwyd.
“Yn unigol a gyda’i gilydd, mae angen i gyrff cyhoeddus ystyried bwyd yn gyfannol, ei ystyried yn eu cynlluniau unigol ac ar y cyd a gwneud lles cysylltiedig â bwyd yn rhan annatod o ddarparu gwasanaethau.”