Ariannu teg, strydoedd mwy diogel a datganoli cyfiawnder i Gymru ydy prif flaenoriaethau Plaid Cymru ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd fis nesaf.

Mae’r blaid wedi lansio eu maniffesto ar gyfer yr etholiadau fydd yn digwydd ar Fai 2.

Y prif flaenoriaethau fydd:

  • Ariannu teg i heddluoedd Cymru.
  • Gwasanaeth heddlu mwy gweladwy.
  • Ffordd Gymreig o Blismona – datganoli pwerau cyfiawnder troseddol llawn i Gymru.

Fe fydd y blaid yn lansio’r maniffesto yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin heddiw (Dydd Llun, Ebrill 15).

‘Creu system decach’

Mae gan Blaid Cymru ymgeiswyr ar gyfer y pedwar llu, Ann Griffith ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, Dafydd Llywelyn yn Nyfed-Powys, Donna Cushin yng Ngwent a Dennis Clarke ar gyfer Heddlu De Cymru.

“Mae degawd o doriadau Torïaidd wedi gadael ein gwasanaeth heddlu wedi ei danariannu – gyda Chymru’n cael llai na’i chyfran deg o gyllid yr heddlu fesul pen o’r boblogaeth,” meddai Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru.

“Mae’r heriau hyn wedi’u gwaethygu gan benderfyniad y llywodraeth Lafur i leihau nifer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a thorri cyllid ar gyfer Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru.

“Mae Llafur a’r Torïaid wedi methu Cymru ar gyfiawnder a phlismona. Nid yw’r naill na’r llall wedi addo datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, er gwaethaf tri adroddiad annibynnol mawr yn argymell trosglwyddo pwerau cyfiawnder troseddol yn llawn i Gymru er mwyn creu system decach.

“Dyw Plaid Cymru ddim yn credu bod hyn cystal ag y mae’n ei gael. Mae ein maniffesto nid yn unig yn rhaglen uchelgeisiol ac eang o bolisïau gyda thegwch yn ganolog iddi, ond yn ddatganiad o egwyddorion mai yn nwylo Cymru y mae cyfiawnder Cymreig yn cael ei wasanaethu orau.

“Rydym yn credu mewn adeiladu ffordd Gymreig o blismona – gyda ffocws ar atal trosedd ac amddiffyn dioddefwyr; ariannu tecach i’n heddluoedd, a sicrhau bod yr heddlu’n bresennol, yn weladwy, yn ddibynadwy ac yn effeithiol, mewn cymunedau ledled Cymru.”

‘Blaenoriaethu anghenion gwledig’ 

Dywed Dafydd Llywelyn, sydd wedi bod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed-Powys ers wyth mlynedd, ei bod hi wedi bod yn “fraint” gwneud y gwaith hyd yn hyn.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd – mae pandemig Covid wedi cael ei ddilyn ar unwaith gan argyfwng costau byw,” meddai.

“A hyn yn sgil mwy na deng mlynedd o doriadau a orfodwyd gan y Torïaid sydd wedi cau ein gwasanaethau cyhoeddus allan.

“Er gwaethaf yr heriau hyn, rwy’n falch fy mod, serch hynny, wedi gallu cyflawni blaenoriaethau ein cymunedau ar gyfer plismona.

“Mae 150 yn fwy o swyddogion heddlu yn cael eu cyflogi ar draws Dyfed-Powys nag oedd yn 2016; mae buddsoddi mewn teledu cylch cyfyng wedi’i gwneud hi’n haws canfod a datrys troseddau; ac mae Tîm Troseddau Gwledig penodol wedi gwella ymateb yr heddlu i’r materion sy’n effeithio ar ein cymunedau gwledig.

“Cyflawnwyd hyn oll gyda lefelau Treth y Cyngor is o gymharu â phob Heddlu arall yng Nghymru.

“Os caf fy ailethol, fy addewid yw adeiladu ar y record hon o gyflawni – byddaf yn gweithio i sicrhau ein bod yn amddiffyn plismona cymdogaeth a chymuned; buddsoddi yn ein gwasanaeth 999 a 101; mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a pharhau i flaenoriaethu anghenion ein cymunedau gwledig.”