Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gofyn am farn pobol am gynlluniau pellach i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a thai gwyliau.

Bwriad y Parc Cenedlaethol yw gwneud hi’n orfodol i bobol gael caniatâd cynllunio er mwyn newid defnydd eiddo.

Yn dilyn eu penderfyniad i roi Rhybudd Cyfarwyddyd Erthygl 4 fis diwethaf, maen nhw bellach wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus am chwe wythnos.

Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn bwriadu cyflwyno Erthygl 4, ac mae’r cyfnod ymgynghori yno wedi dod i ben.

‘Penderfyniad arwyddocaol’

Ar hyn o bryd mae tri chategori defnydd ar gyfer eiddo preswyl, sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr, a gall perchnogion newid o un i’r llall heb fod angen caniatâd cynllunio.

Amcan Cyfarwyddyd Erthygl 4 yw cael gwared ar y rhyddid i newid prif gartref yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr heb dderbyn caniatâd cynllunio.

“Byddai gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn gam pwysig ymlaen er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa dai yn Eryri,” meddai Tim Jones, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Byddai’n benderfyniad arwyddocaol a hanesyddol fyddai’n siapio a dylanwadu ar dynged cymunedau Eryri, felly rydym yn awyddus i dderbyn sylwadau gan gynrychiolaeth eang o drigolion neu berchnogion eiddo yn Eryri.”

Mae posib i bobol roi eu barn tan Mai 24, cyn y bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ystyried y sylwadau a gwneud penderfyniad.

Os bydd cynlluniau’n bwrw yn eu blaenau, bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dod i rym ar gyfer ardal Eryri ar Fehefin 1 2025.

Ni fydd y newid yn effeithio ar eiddo sydd wedi bod yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr cyn y dyddiad hwnnw.

Bydd rali nesaf Cymdeithas yr Iaith yn galw am fwy o reolaeth ar y farchnad dai yn cael ei chynnal ym Mlaenau Ffestiniog ar Fai 4, ac er nad yw’r dref ei hun yn y Parc Cenedlaethol, mae rhannau o’r fro wedi’u cynnwys.

Rhai o drigolion yn dref fu’n siarad gyda golwg360 am yr “argyfwng” yn yr ardal, a gwerth y camau sydd wedi’u cymryd yn barod gan Gyngor Gwynedd i fynd i’r afael â’r sefyllfa, yn ddiweddar.

Beth yw’r holl sôn am Erthygl 4?

Elin Wyn Owen

Byddai gweithredu Erthygl 4 yn gwneud hi’n orfodol i bobol gael caniatâd cynllunio er mwyn newid defnydd eiddo

“Argyfwng tai”: “Amhosib” dod o hyd i dŷ rhent

Cadi Dafydd

Bydd rali nesaf Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith yn cael ei chynnal ym Mlaenau Ffestiniog, ardal lle mae cyfradd uchel o Air BnBs