Mae un o’r trefnwyr sydd ynghlwm wrth ddathliad lleol o hud a lledrith yn Neuadd Ogwen, Bethesda yr wythnos hon (dydd Sadwrn, Ebrill 20) yn galw am ddathliad cenedlaethol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Prin yw’r dathliadau cenedlaethol o hud a lledrith yn y Gymraeg er ei fod wedi’i droelli yn hanes a chwedloniaeth y Cymry, yn ôl Bet Huws, trefnydd Diwrnod Dathlu Hud a Lledrith Cymru.
Mewn gwledydd eraill, mae hud yn cael ei ddathlu ac mae pobol yn cael eu denu at hud a lledrith Cymru.
Ond yn ôl Bet Huws, daeth hi’n amser bellach i’r Cymry ddathlu’n genedlaethol hefyd.
Y rhai sy’n cymryd rhan
Y rhai fydd yn cymryd rhan yn y diwrnod yw Dr Delyth Badder, Mhara Starling, Kristoffer Hughes a Gareth Roberts.
Mae Delyth Badder o Bwllheli, sydd bellach yn byw ym Mhontypridd, yn lên-gwerinydd, yn awdur, ac yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus gydag Amgueddfa Cymru, ac mae ganddi ddiddordeb academaidd arbennig mewn ymddangosiad ysbrydion o fewn y traddodiad Cymreig.
Yn ogystal â chyfrannu’n gyson i drafodaethau yn y cyfryngau ynghylch llên gwerin Gymreig, mae Delyth hi wedi cyd-ysgrifennu The Folklore of Wales: Ghosts, a bydd hi’n rhannu pytiau o’r astudiaeth gyfoes a chyffrous yma o lên gwerin ysbrydion Cymru drwy’r canrifoedd, gan ddefnyddio deunydd prin sydd heb ei gyhoeddi na’i gyfieithu erioed o’r blaen.
Hi, hefyd, yw’r Patholegydd Pediatrig Cymreig cyntaf erioed, ac mae hi hefyd yn Archwilydd Meddygol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Swynwraig Gymraeg ac awdur Welsh Witchcraft: a Guide to the Spirits, Lore, and Magic of Wales yw Mhara Starling.
Mae hi’n rhannu ei chariad at lên gwerin, mytholeg, a hud a lledrith Cymru drwy ei sianel YouTube, tudalennau cyfryngau cymdeithasol, a’i phodlediad The Welsh Witch Podcast.
Mae hi wedi ymddangos mewn cyfresi teledu a rhaglenni dogfen amrywiol yn y Gymraeg a Saesneg, yn cyfrannu’n gyson ar y radio ac yn cynnal gweithdai dwyieithog a gwersi Cymraeg ar-lein drwy gyfrwng chwedloniaeth Gymraeg.
Bydd hi’n trafod dylanwad chwedloniaeth Cymru ar ddewiniaeth fodern.
Bydd y derwydd Kristoffer Hughes, sylfaenydd a phennaeth Urdd Derwyddon Ynys Môn, yn tywys pobol drwy arlwy’r dydd, yn ogystal â chynnal sesiwn ar ddylanwad Iolo Morganwg ar draddodiadau argoel modern.
Mae’n awdur ar fytholeg Geltaidd a Chymreig, marwolaeth a galar.
Mae’n arwain gweithdai a chyrsiau ar-lein ac wyneb-yn-wyneb ledled y Deyrnas Unedig, Ewrop, America ac Awstralia, yn ogystal â chyflwyno a chyfrannu’n gyson i deledu a radio Cymraeg a Saesneg – fel ei hunan, ac fel Maggi Noggi.
Mae’r ffotograffydd a darlunydd Gareth Roberts wedi cyfrannu at nifer o gyhoeddiadau ers y 1980au.
Yn gydlynydd Cynllun Cerdded a Darganfod Menter Fachwen, mae’n plethu ei ddawn artistig gyda’i gariad at hanes lleol i dywys teithiau cerdded poblogaidd, dylunio a chyhoeddi mapiau hanes lleol, yn ogystal â chynnal arddangosfeydd amrywiol.
Bydd yn cyflwyno pobol i anifeiliaid hud Cymru.
Tradoddiadau, hanesion a chwedloniaeth
“Mae gennym doreth o draddodiadau, hanesion a chwedloniaeth,” meddai Bet Huws wrth golwg360.
“Mae’n bwysig ein bod ni, fel Cymry, yn dathlu ein hudoliaeth ein hunain. Mae yna ddigon o hyn yn mynd ymlaen mewn gwledydd eraill.
“Mae gennyt ti lawer o bobol yn dod drosodd i Gymru, ac maen nhw’n cael eu swyno gan ein hud a lledrith ni.
“Mae’n bwysig i ni ein hunain ddathlu ein hud a lledrith ein hunain, ac mae’r digwyddiad yma drwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol ar gyfer gwneud hynny.
“Mae yna dipyn o bethau fel hyn yn digwydd trwy gyfrwng y Saesneg, ond roedden ni’n teimlo’i fod o’n bwysig ein bod ni’n gwneud rhywbeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae o’n bwysig gwneud o drwy’r Gymraeg oherwydd mai Cymry ydym ni.
“Mae yna hudoliaeth mewn iaith.
“Cysyniadau ydy geiriau.
“Mae’r ffordd mae iaith yn ffurfio yn creu meddylfryd arbennig, a dyna sy’n gwahaniaethu’r cenhedloedd oddi wrth ei gilydd, sef y ffordd maen nhw’n meddwl, y ffordd maen nhw’n ymdrin ag iaith.
“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o’n hanes ni, mae hi yn y tir, mae hi yn ein chwedloniaeth ni.
“Mae’r ffordd rydym yn ei defnyddio – yr enwau, y geiriau – i gyd yn un blethen gref a hyfryd.
“Mae’n bwysig ein bod yn dathlu ein pethau ni drwy gyfrwng ein hiaith ni.”
Serch hynny, bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael ar y diwrnod er mwyn i bawb, waeth beth fo’u hiaith, yn gallu cymryd rhan.
“Dydyn ni ddim yn gwahardd na chau allan o gwbl,” meddai.
“Mae yna groeso i bawb, ond mae hwn yn benodol trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd ein bod ni’n teimlo bod hynny’n bwysig.”
Symud i leoliad mwy o faint
Cafodd y digwyddiad cyntaf ei gynnal y llynedd, ac roedd yn llwyddiant ysgubol nes bod y trefnwyr wedi penderfynu symud i leoliad mwy o faint eleni.
Ond beth yw arwyddocâd y diwrnod?
“Mae o jest yn ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth o’n hanes, traddodiadau, chwedloniaeth ac i ddathlu efo’n gilydd hudoliaeth ein gwlad drwy gyfrwng iaith ein tir,” meddai Bet Huws.
“Mae hud a lledrith yn ferw ym mhob man, ac mae gan bob man ei hanes.
“Mae hwn yn achlysur cenedlaethol.
“Er mai yn Neuadd Ogwen mae’n cael ei gynnal, dydy o ddim yn benodol am Ddyffryn Ogwen.
“Rydym yn sôn am hud a lledrith Cymru fel gwlad, gan gynnwys elfennau o wahanol lefydd.
“Maen nhw i gyd yn berthnasol i ni.”