Mae Plaid Cymru’n rhybuddio mai “ychydig iawn” fydd yr arian newydd sydd wedi ei gyhoeddi ar gyfer cynghorau lleol yn ei wneud i leddfu’r pwysau ariannol arnyn nhw.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe (dydd Mercher, Chwefror 7) eu bod nhw am fuddsoddi £25m ychwanegol mewn cynghorau sir, gyda’r arian ychwanegol ar gyfer 2024-25 yn mynd tuag at “gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol, ysgolion a helpu cynghorau i ymateb i bwysau eraill yn eu cymunedau lleol”.
Daw’r arian yn unol â’r Fformiwla Barnett, wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi ar Ionawr 24 y byddai’n cynyddu’r setliad llywodraeth leol o £600m yn Lloegr.
Er bod Peredur Owen Griffiths, llefarydd llywodraeth leol Plaid Cymru, yn croesawu’r arian, fydd e ddim yn mynd yn ddigon pell i gau’r bwlch ariannu o £354m, meddai, gan ychwanegu bod llawer o gynghorau, yn enwedig mewn mannau gwledig, wedi gorfod ymdopi â chodiad sy’n “sylweddol is na’r cyfartaledd ar draws Cymru”.
“Er ei bod yn iawn fod yr arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i ariannu awdurdodau lleol, nid yw’n gwneud iawn am y ffaith nad yw Cymru’n cael chwarae teg gan San Steffan,” meddai.
Codi’r isafswm
Dywed Peredur Owen Griffiths ymhellach fod Plaid Cymru’n credu bod angen defnyddio’r arian i gynyddu’r cyllid gwaelodol lleiafswm.
“Gyda’r cyllid gwaelodol wedi’i osod ar 2% ar hyn o bryd, mae llawer o gynghorau’n gorfod ymgodymu â chynnydd yn eu cyllideb sy’n sylweddol is na’r cyfartaledd ledled Cymru,” meddai.
“Mae hyn yn arbennig o wir am gynghorau mewn ardaloedd mwy gwledig, sy’n destun pryder gwirioneddol.
“O ystyried y diffygion hir sefydlog ym model ariannu Barnett, bydd Plaid Cymru yn parhau i ddadlau’r achos dros ddiwygio’r fformiwla honno ar sail anghenion er mwyn sicrhau bargen decach i Gymru.
“Mae’r ffaith i’r cyhoeddiad hwn gael ei wneud heb rybudd ymlaen llaw nac ymgynghoriad o ran y goblygiadau i gyllidebau datganoledig hefyd yn siarad cyfrolau am ein sefyllfa ymylol o fewn y Deyrnas Unedig, ac amarch parhaus y Llywodraeth Geidwadol hon yn y Deyrnas Unedig tuag at ddatganoli Cymreig.”
Mae disgwyl y bydd y cyllid ychwanegol yn rhan o gynigion Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru, fydd yn cael ei gyhoeddi ar Chwefror 27.