Llefarydd Llywodraeth Leol y Ceidwadwyr Cymreig sy’n dadlau y dylai fod rhaid cyhoeddi hysbysiadau ynghylch newidiadau i dreth y cyngor mewn papurau newydd yn ogystal ag ar y we, fel bod modd i bawb gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd…


Mewn oes ddigidol, pan fo popeth yn ein bywydau’n prysur ddod yn ddi-bapur, gall fod yn hawdd anghofio nad pawb sydd wedi’u cysylltu â’r we.

Ond dw i’n siŵr fod gan y rhan fwyaf ohonom, os nad pawb ohonom, berthynas neu ffrind nad yw’n defnyddio’r rhyngrwyd. Efallai nad oes ganddyn nhw gyfrifiadur. Efallai nad ydyn nhw’n gallu ei ddefnyddio. Dydy hynny ddim mor anghyffredin ag y byddech chi’n ei feddwl i ddechrau. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), dydy 6.3% o oedolion yn y Deyrnas Unedig erioed wedi defnyddio’r rhyngrwyd. Pan edrychwch chi ar yr ystadegau ar gyfer pobol dros 75 oed, dydy bron i 40% erioed wedi defnyddio’r rhyngrwyd.

Mewn oes ddigidol, ar gyfer y ddau ym mhob pump o bobol dros 75 oed sydd erioed wedi defnyddio’r rhyngrwyd, gall ddod yn llawer iawn anoddach gwneud pethau oedd yn arfer bod yn hawdd ac yn rhan o’u trefn ddyddiol. Mae banciau’n cau ar y Stryd Fawr, er enghraifft, gan ddweud wrth gwsmeriaid y gallan nhw fynd ar-lein i drafod eu harian. Ond i rai pobol nad ydyn nhw’n gwybod sut mae mynd ar-lein, neu sy’n methu gwneud neu nad ydyn nhw eisiau gwneud, maen nhw’n canfod eu hunain yn methu cael mynediad at wasanaeth oedd yn arfer bod mor brydlon â mynd i mewn i’w cangen leol.

Democratiaeth, atebolrwydd a thryloywder

A dyna pam na allwch chi ddigideiddio democratiaeth yn llawn. Oherwydd pan fyddwch chi, byddwch chi mewn perygl o ddifreinio pobol, a’u cau nhw allan o rannau o’r broses ddemocrataidd.

Ar hyn o bryd, mae gofyn i gynghorau gyhoeddi hysbysiadau o newidiadau i dreth y cyngor mewn cyhoeddiadau fel yr un hwn. Ond o dan gynlluniau mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori arnyn nhw, byddai’r gofyniad hwn yn cael ei ddisodli gan ofyniad i gyhoeddi’r hysbysiadau ar wefannau cynghorau, a gofyniad hefyd i roi ‘trefniadau amgen addas’ yn eu lle ar gyfer y rhai sy’n ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyfleusterau ar-lein.

Dw i’n credu y byddai dileu’r gofyniad i gyhoeddi hysbysiadau treth y cyngor mewn papurau newydd yn cau nifer o bobol allan, yn enwedig pobol hŷn, o ran bwysig o’r broses ddemocrataidd.

Mae ein papurau newydd yn rhan o’n cymunedau. Sefydliadau ydyn nhw. Maen nhw’n cael eu gwerthu mewn siopau lleol, ac yn aml mewn archfarchnadoedd mawr hefyd. Ychydig iawn o lefydd gwell sydd i sicrhau y gall pobol ym mhob rhan o’n cymdeithas gael mynediad at wybodaeth am newidiadau i dreth y cyngor na thudalennau papur newydd lleol hirsefydledig mae modd ymddiried ynddo.

Mae hyn yn rhan bwysig o ddemocratiaeth, atebolrwydd a thryloywder. Gall roi achos i gynghorau feddwl, hyd yn oed, wrth iddyn nhw osod cyfraddau treth y cyngor, gan wybod y bydd newidiadau ar bob stondin papur newydd, yn hytrach nag ar wefannau na fydd pawb yn gwybod sut i gael mynediad atyn nhw ac sy’n gallu bod yn hen-ffasiwn ac yn ddryslyd weithiau.

A minnau’n gyn-arweinydd Cyngor, dw i’n gwybod nad yw awdurdodau lleol yn llawn pobol sy’n ceisio osgoi tryloywder. Mae pobol yn gwneud eu gorau glas dros eu cymunedau. Ond drwy sicrhau bod hysbysiadau treth y cyngor yn cael eu cyhoeddi mewn papurau newydd, gallwn ddiogelu buddiannau pleidleiswyr, fel bod ganddyn nhw wybodaeth dda ac fel nad oes neb yn cael eu cau allan o’r broses ddemocrataidd.