Ysgol Golwg Pen y Fan yw enw’r ysgol newydd yn Aberhonddu fydd yn agor ei drysau ym mis Medi.

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei sefydlu ar ôl uno Ysgol Iau Mount Street, Ysgol Babanod Mount Street ac Ysgol Gynradd Gymunedol Cradoc fel rhan o gynllun Trawsnewid Addysg Cyngor Sir Powys yn y dref.

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei sefydlu ar dri safle presennol, cyn symud i adeilad newydd sbon â chyfleusterau newydd sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, medd y Cyngor Sir.

Cafodd y disgyblion gais i gynnig enwau ar gyfer yr ysgol newydd, a chafodd rhestr fer o chwe enw ei llunio gan y Corff Llywodraethu Dros Dro cyn gofyn am farn cymunedau’r ysgol.

Cydweithio

Yn ôl Jess Williams, mae’r Corff Llywodraethu Dros Dro yn teimlo cyffro wrth i’r enw newydd gael ei ddatgelu.

“Rydyn ni wedi mwynhau cydweithio â disgyblion, rhieni, staff a’r gymuned leol a hoffwn ddiolch iddyn nhw am yr help, ymgysylltiad a chefnogaeth,” meddai.

“Mae hwn yn gam ffantastig ymlaen i’r ysgol newydd ac edrychaf ymlaen at weld datblygiadau pellach a bod yn rhan ohonyn nhw yn ystod y trawsnewid.”

Dywed y Pennaeth Sarah Court ei bod hi’n “fraint” treulio amser yn yr ysgolion yn siarad â’r plant.

“Mae cymuned yr ysgol wedi dewis enw hyfryd o’r detholiad a gyflwynwyd,” meddai.

“Mae’n grêt gweld yr ysgol newydd yn datblygu gam wrth gam ac rwy’n teimlo’n falch iawn o fod yn rhan o daith newydd Ysgol Golwg Pen y Fan.”

‘Pennod newydd’

Yn ôl y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy’n Dysgu, mae agor yr ysgol yn golygu “pennod newydd ar gyfer addysg yn Aberhonddu”.

“Hoffwn ddymuno’r gorau i’r llywodraethwyr, rhieni a disgyblion dros y misoedd a ddaw wrth iddyn nhw wneud paratoadau fel rhan o’r uno hwn,” meddai.

“Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw wrth i ni weithio i wella profiad y dysgwr i’r plant hynny fydd yn mynychu Ysgol Golwg Pen y Fan.”

Bydd yr enw newydd yn amodol ar benderfyniad gafodd ei ddirprwyo ganddo fe.