Mae angen i Dŵr Cymru anelu’n uwch wrth fynd i’r afael â llygredd, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Heddiw (dydd Iau, Chwefror 8), mae Pwyllgor Amgylchedd y Senedd yn galw ar Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflymu mesurau i fynd i’r afael â llygredd yn nyfroedd Cymru.

Mae’r pwyllgor o’r farn y dylai Dŵr Cymru osod targed cyn gynted â phosibl i beidio â chael unrhyw achosion o lygredd.

At hynny, mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod amserlen cyn gynted â phosibl ar gyfer gwahardd cadachau gwlyb sy’n cynnwys plastig.

Clywodd y pwyllgor mai cadachau gwlyb sy’n creu’r rhwystrau pennaf.

Yn sgil hynny, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn galw am y canlynol:

  • Dŵr Cymru i egluro sut maen nhw’n cynllunio ar gyfer pwysau hinsawdd yn y dyfodol, er mwyn lliniaru digwyddiadau llygredd difrifol.
  • Dŵr Cymru i ymrwymo i osod targed mwy ymestynnol ar gyfer lleihau achosion o lygredd erbyn 2030, ac ymrwymo i uchelgais o beidio â chael unrhyw achosion o lygredd, o fewn yr amser byrraf posibl.
  • Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad ar gadachau gwlyb sy’n cynnwys plastig, cyn gynted â phosibl.
  • Ofwat i egluro a yw eu hadferiad cyflog ar sail perfformiad yn berthnasol i Dŵr Cymru – a sut felly – o ystyried eu statws ‘nid-er-elw’.

‘Tasg heriol ond rhaid ei chyflawni’

Dywed Llŷr Gruffydd, cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, fod yn rhaid i’r corff “weithio’n galetach a chyflymach”.

“Llygredd, gollyngiadau, ansawdd dŵr yfed ac ymyriadau cyflenwad – dim ond rhai o’r problemau y mae Dŵr Cymru yn ei chael hi’n anodd dygymod â nhw. Ar ben y gollyngiadau carthion cyson sy’n rhy gyfarwydd i bob un ohonom, does ond un casgliad: mae angen i Dŵr Cymru anelu’n uwch,” meddai.

“Mae tywydd eithafol a newid hinsawdd yn creu llanast ar y system dŵr a charthffosiaeth, sef system sy’n heneiddio.

“Mae disgwyl y bydd effeithiau newid hinsawdd yn gwaethygu dros y blynyddoedd i ddod, ac mae angen i Dŵr Cymru ddod o hyd i atebion cynaliadwy a hirdymor, sy’n fforddiadwy i gwsmeriaid.

“Mae’n dasg heriol, ond yn un mae’n rhaid i Dŵr Cymru ei chyflawni.

“Mae’n rhaid i Dŵr Cymru weithio’n galetach ac yn gyflymach i adfer ei safle fel arweinydd o fewn y diwydiant o ran perfformiad amgylcheddol.

“Mae eisoes wedi tystio i’w allu i gyflawni hynny. I bobol Cymru, gwaetha’r modd, nid yw eu perfformiad presennol yn ddigon da.”

‘Her heb ei thebyg’

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n croesawu’r adroddiad a’i argymhellion.

“Mae ein sector dŵr yn wynebu her frys, heb ei thebyg ond rydyn ni’n dweud yn glir bod rhaid i gwmnïau dŵr yng Nghymru ddarparu gwasanaethau a chanlyniadau gwych.

“Byddan ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth â chwmnïau dŵr ac eraill i gydnabod argymhellion y Pwyllgor a sicrhau bod y gwelliannau’n cyrraedd y safon mae pobol Cymru yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.”

Fe wnaeth ymgynghoriad ar gynigion i wahardd cadachau gwlyb sy’n cynnwys plastig ledled y Deyrnas Unedig ddod i ben ar Dachwedd 25 2023, ychwanega, ac ar hyn o bryd mae’r canlyniadau yn cael eu dadansoddi.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Dŵr Cymru hefyd.