Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cytuno i gefnogi cynllun Prynu i Osod Cyngor Gwynedd, drwy ariannu pryniant hyd at bum eiddo preswyl yn rhannol.

Ar ôl cwblhau gwaith adnewyddu ar yr eiddo, byddan nhw’n cael eu rhoi ar rent fforddiadwy ar gyfer pobol leol gan Gyngor Gwynedd.

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi prynu ugain eiddo, gyda’r bwriad o brynu 80 arall dros y tair blynedd nesaf.

Daw o dan Gynllun Gweithredu Tai ehangach y Cyngor, sy’n gobeithio darparu dros 1,000 o gartrefi i bobol Gwynedd dros y blynyddoedd nesaf.

Dywed y Cynghorydd Elwyn Edwards, cadeirydd Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol, fod yr Awdurdod yn “hynod falch” o gefnogi’r cynllun fydd yn dod ag eiddo yn ôl i ddeiliadaeth leol.

“Mae cynlluniau o’r fath yn hanfodol i helpu i ddiogelu iaith a diwylliant ein cymunedau ar gyfer y dyfodol, a hyfywdra economi wledig Eryri,” meddai.

Ychwanega’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, ei fod yn falch fod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cynnig cymorth ariannol

“Nid brics a morter yn unig yw tai fforddiadwy, ond rhaff achub i gadw ein cymunedau yng Ngwynedd yn fyw ac yn ffyniannus,” meddai.

“Trwy gyfuno adnoddau fel hyn gallwn ni fynd gam ymhellach wrth gefnogi cymunedau mewn ardaloedd lle mae nifer uchel iawn o bobl Gwynedd wedi cael eu prisio allan o’u tai a’u cynefin, fel y rheiny yn Eryri.”

Sefyllfa dai yn “tanseilio’r iaith”

Mae’r Awdurdod hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw am gefnogi cais Menter Iaith Conwy ar ran Partneriaeth Tai Penmachno i ariannu swydd Swyddog Tai Cymunedol rhan amser.

Daw hyn wrth i gymuned Bro Machno wynebu heriau yn sgil fforddiadwyedd a mynediad at dai yn lleol.

Y pryder yw fod hyn yn bygwth hyfywedd y Gymraeg yn yr ardal.

Dywed Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy, ei fod yn “falch iawn o’r gefnogaeth,” yn enwedig gan fod pobol leol yn teimlo bod y sefyllfa dai presennol yn tanseilio’r iaith.

“Rydym wedi bod yn gweithio efo cymuned Penmachno ers blynyddoedd i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned,” meddai.

“Ond mae pobol leol yn teimlo’n gynyddol fod y sefyllfa dai yn tanseilio’r iaith.

“Ein gobaith trwy gyflwyno’r cais yma i’r Parc ydi rhoi cymhwysedd ychwanegol i’r gymuned i ymafael â’r broblem a dechrau perchnogi eiddo yn yr ardal.

“Y gobaith yw fydd hyn yn cryfhau sefyllfa’r Gymraeg trwy leihau’r nifer o dai gwyliau a thai gwag sydd oddeutu 37% o stoc yr ardal a chynnig cyfleoedd i bobl ifanc i fyw yno.”