Mae cleifion lewcemia sy’n byw mewn ardaloedd mwy cefnog yn byw bron i ddwywaith yn hirach ar ôl triniaeth â’r rhai sy’n dod o ardaloedd tlotach, medd ymchwil newydd.

Mae’r ymchwil yn dangos bod cyfraddau goroesi pobol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sydd â lewcemia lymffocytig cronig (LLC), y math mwyaf cyffredin o’r salwch, yn amrywio yn dibynnu lle maen nhw’n byw.

Yn ôl canfyddiadau ymchwil dan arweiniad yr Athro Chris Fegan, cadeirydd Pwyllgor Gwyddonol Ymchwil Canser Cymru, mae cleifion o ardaloedd mwy difreintiedig bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn dioddef o LLC mwy datblygedig pan fyddan nhw’n cael diagnosis.

Mae’r ymchwil yn datgelu bod 17% o’r cleifion hyn o ardaloedd mwy difreintiedig, o gymharu â 9% o gleifion o ardaloedd cefnog.

‘Dim dealltwriaeth pam’

Dydy hi ddim yn amlwg pam fod cleifion o ardaloedd mwy difreintiedig yn byw am lai o amser, ond mae’n bosib y gallai afiechydon eraill fel clefyd y galon a’r ysgyfaint gyfrannu, yn ôl Chris Fegan.

“Er bod gofal cleifion yn cael ei gynnal gan yr un timau clinigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW), gyda mynediad i’r un triniaethau, canfuwyd bod cleifion o’r cymunedau tlotaf yng Nghaerdydd yn byw 5 mlynedd yn llai ar gyfartaledd na chleifion o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, hyd yn oed pan y cawsant ddiagnosis yn gymharol gynnar o’r lewcemia,” meddai.

“Does dim dealltwriaeth ar hyn o bryd pam fod cleifion LLC o ardaloedd mwy difreintiedig yn marw o’r salwch yn gyflymach na chleifion o rywle arall ar ôl dechrau triniaeth, ond gall presenoldeb cyd-afiachydon eraill – fel clefyd y galon a’r ysgyfaint fod yn ffactor sy’n cyfrannu.

“Mae cyflyrau sy’n bodoli eisoes fel y rhain yn tueddu i gyfyngu ar yr opsiynau therapiwtig y gellir eu rhoi i gleifion a’r dosau y gallant eu goddef, a allai gyfrannu at lai o oroesiad.”

‘Anfaddeuol’

Gallai’r rhesymau dros y gwahaniaeth hefyd gynnwys diffyg ymwybyddiaeth o symptomau (sy’n cynnwys colli pwysau, blinder a chwysu yn y nos), iechyd gwael yn gyffredinol, amharodrwydd i weld meddyg teulu neu amharodrwydd i golli gwaith am resymau meddygol oherwydd pwysau ariannol.

“4 Chwefror 2024 oedd Diwrnod Canser y Byd, a’r thema eleni oedd ‘Cau’r Bwlch’ i godi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau annerbyniol o ran canser,” meddai Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil gydag Ymchwil Canser Cymru.

“Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod anghydraddoldebau ar stepen ein drws.

“Mae’r ffaith ei fod yn digwydd o fewn prifddinas Cymru yn anfaddeuol ac mae angen i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid cysylltiedig wneud ymrwymiad radical tuag at gynnydd gwirioneddol wrth fynd i’r afael â’r mater hwn, sydd wedi bod yn hirsefydlog a dim ond yn debygol o waethygu yn yr hinsawdd economaidd bresennol.”