Mae angen rhoi’r gorau i ledaenu “newyddion ffug” am godi tollau ar bont yr Hafren, yn ôl Vaughan Gething.
Fe wnaeth Gweinidog yr Economi ei sylwadau yn ystod dadl rhyngddo fe a’r Ceidwadwr Natasha Asghar yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 7), wrth iddyn nhw drafod creu cyfleoedd economaidd yn y de-ddwyrain.
Gofynnodd Jayne Bryant, yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin Casnewydd, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn cefnogi economi’r ardal.
Fodd bynnag, yn dilyn ymateb Vaughan Gething wrth amlinellu’r cyfleoedd technoleg a chreadigol sydd wedi codi yn y ddinas yn ddiweddar, beirniadodd Natasha Asghar effaith y seilwaith trafnidiaeth gwael ar yr economi yno.
“Cododd fy nghyd-Aelod Jayne Bryant gwestiwn diddorol wnaeth i mi feddwl: beth yn union mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r economi?” meddai.
“Mae economi de-ddwyrain Cymru yn cael ei rhwystro’n ddifrifol gan seilwaith trafnidiaeth gwael, ac nid oes gwadu hynny.
“Edrychwch ar yr M4: mae’r brif wythïen i mewn i’r de yn llawn tagfeydd rheolaidd, gyda gweithwyr a nwyddau’n dod i stop.
“A pheidiwch hyd yn oed cychwyn ar y difrod y bydd Llafur yn ei wneud i’n heconomi os caiff eich cydweithwyr yn Sir Fynwy eu ffordd, a dod â thollau ofnadwy pontydd Hafren yn ôl.”
Cyfeiriodd hefyd at sylwadau blaenorol Vaughan Gething, pan ddywedodd nad yw’n opsiwn peidio â gweithredu ar ffordd liniaru’r M4 bellach.
“Nid fy ngeiriau i yw’r rheiny, Weinidog; eich rhai chi ydyn nhw,” meddai.
“Felly, a yw hynny’n golygu, pe baech chi’n dod yn Brif Weinidog nesaf, y byddwch yn dod ag agenda wrth-fusnes y Llywodraeth hon i ben, ac o’r diwedd yn adeiladu ffordd liniaru fawr ei hangen ar yr M4?”
‘Newyddion ffug’
Wrth ymateb, cyfeiriodd Vaughan Gething at ei sylwadau am bontydd Hafren fel “newyddion ffug”.
Cafodd y pryderon yn sgil ail-godi tollau ar y pontydd eu codi fis Rhagfyr, pan restrodd cynllun trafnidiaeth pum-mlynedd Cyngor Sir Fynwy “ailosod tollau ar y pontydd Hafren” fel un o’r cynlluniau oedd “yn amodol ar adolygiad ac ystyriaeth bellach”.
Fodd bynnag, mae Mary Ann Brocklesby, arweinydd y Cyngor, eisoes wedi cadarnhau nad oes cynlluniau i wneud hynny.
“Gadewch i ni ymdrin â’r ffaith nad oes unrhyw gynigion i ailgyflwyno tollau ar bont Hafren,” meddai Vaughan Gething.
Wrth drafod ffordd liniaru’r M4, eglurodd nad oes gan y Llywodraeth yr adnoddau sydd eu hangen i weithio arni ar hyn o bryd.
“Efallai nad yw’r Aelod wedi sylwi, ond mae pwysau gwirioneddol ar gyllidebau cyfalaf yma yn Llywodraeth Cymru ac yn syml iawn nid yw’n ddewis credadwy i ddweud bod ffordd liniaru’r M4 yn mynd i ddigwydd,” meddai.
“Felly, pan fyddwn wedyn yn edrych ar yr hyn yr ydym yn ei wneud, rydym yn falch iawn o fod yn Llywodraeth sydd o blaid busnes ac o blaid gweithwyr.”
Liz Truss yn ‘gwarantu mwyafrif mwy i Lafur’
Wrth ymateb i’r feirniadaeth o Lywodraeth Cymru gan Natasha Asghar, cyfeiriodd Vaughan Gething at record y Ceidwadwyr yn San Steffan, gan ddweud ei fod yn “wirionedd diymwad” fod y difrod wnaeth llywodraeth Liz Truss yn dal i gael ei deimlo heddiw.
“Nid fy ngeiriau i yw’r rhain, mewn gwirionedd; geiriau un o’ch cyn-Weinidogion yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig a ddywedodd hynny neithiwr ar Newsnight,” meddai.
“Mae cydnabyddiaeth o fewn eich plaid eich hun o’r niwed parhaol mae Liz Truss wedi’i wneud, ac yna mae hi’n dychwelyd eto gan honni ei bod hi’n mynd i achub pob un ohonom.
“Wel, byddwn yn falch iawn o weld Liz Truss yn cymryd rhan ganolog arall yn y Blaid Geidwadol, fydd yn gwarantu dyfodol llawer gwell a mwyafrif llawer mwy i’r Llywodraeth Lafur sy’n dod i mewn yn y Deyrnas Unedig.”