Mae Cyfeillion y Ddaear yn galw ar Brif Weinidog nesaf Cymru i flaenoriaethu cyfiawnder hinsawdd.

Maen nhw wedi ysgrifennu at y ddau ymgeisydd, Vaughan Gething a Jeremy Miles, yn gofyn iddyn nhw ymrwymo i greu Cymru gwbl ddi-garbon pe baen nhw’n cael eu hethol.

Yn ôl y grŵp ymgyrchu, mae’n rhaid sicrhau bod materion hinsawdd yn cael eu datrys mewn ffordd sydd hefyd yn creu swyddi a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Dywed Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, fod newid hinsawdd yn chwarae rôl wrth waethygu anghyfiawnderau ac anghyfartaledd mewn cymdeithas.

Ychwanega mai’r cymunedau sy’n gwneud y lleiaf i achosi’r argyfwng hinsawdd sydd yn dioddef yr effeithiau gwaethaf yn aml iawn.

‘Adeg dyngedfennol’

Yn ei llythyr, dywed Haf Elgar ei bod hi’n “adeg dyngedfennol yn ein hanes”.

“Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn annog y Prif Weinidog nesaf i edrych ar eu holl benderfyniadau drwy’r lens hon i sicrhau bod cyfiawnder hinsawdd wrth galon eu rhaglen llywodraethu,” meddai.

“Rydyn ni’n gweld twymo byd eang digynsail, a’r difrod a ddaw yn ei sgil – tonnau gwres, llifogydd, newyn a thanau gwyllt yn dod yn fwyfwy aml ac yn gyflymach fyth nac y rhagwelwyd.

“Fe fydd y penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn yr ychydig flynyddoedd nesaf yn allweddol i ba mor gyflym a theg rydyn ni’n trawsnewid i sero net, a beth fydd ein heffaith ar y byd a chymunedau yng Nghymru.”

Addewidion amgylcheddol

Un addewid ym maniffesto Jeremy Miles yw “sicrhau bod Cymru yn parhau ei harweinyddiaeth ryngwladol pan ddaw i daclo argyfyngau hinsawdd a natur arf lefel leol a rhyngwladol” dros y degawd nesaf.

Ymysg ei flaenoriaethau mae cyflwyno targedau statudol i leihau’r dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2030, a gweithio tuag at dargedau sero net erbyn 2035.

Mae hefyd yn addo y byddai’n parhau i sicrhau bod o leiaf 30% o dir, afonydd a moroedd yn cael eu hamddiffyn er mwyn galluogi byd natur i adfer.

Mae Vaughan Gething hefyd wedi gwneud ymrwymiadau maniffesto i’r amgylchedd wrth alw am fwy o swyddi gwyrdd, megis yn y sector ynni adnewyddadwy.

Mae’n amlinellu ei fwriad i greu cyfleoedd gwaith “da ac ystyrlon [fydd] yn helpu i godi pobol allan o dlodi a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”