Bydd cynyddu prisiau tocynnau trên yn gwneud drwg i’r niferoedd sy’n teithio ar drenau, yn ôl Plaid Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Chwefror 7) y bydd cynnydd o 4.9% ym mhrisiau tocynnau Trafnidiaeth Cymru.

Yn ôl y Llywodraeth, mae angen cynyddu’r prisiau er mwyn gallu buddsoddi mewn gwasanaethau, gan gynnwys Metro De Cymru.

Ond mae Plaid Cymru yn rhybuddio y gallai’r cynnydd effeithio ar nifer y bobol sy’n dewis teithio ar drenau.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi £236m ychwanegol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru.

“Bydd teithwyr yn wynebu ergyd arall gyda chynnydd o 4.9%, sy’n agos at chwyddiant, wedi cael ei gyhoeddi heddiw,” meddai Delyth Jewell, llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru.

“Ar adeg pan ddylen ni annog mwy o bobol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, dw i’n poeni y gall y cynnydd hwn effeithio ar nifer y teithwyr.

“Yr hyn sy’n peri mwy o ddryswch yw bod disgwyl i deithwyr dalu er bod y Llywodraeth Lafur wedi addo rhoi £236m ychwanegol i Drafnidiaeth yn ddiweddar – swm, gaethon ni wybod, oedd ei angen er mwyn llenwi’r bwlch ar ôl gwneud amcangyfrifon anghywir ar gyfer nifer teithwyr.

“Tra bo Llafur yn cyfiawnhau hyn fel buddsoddiad yng ngwasanaethau rheilffordd y de, mae pobol yn y gogledd yn colli allan eto.”

Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi’r £3.9bn sy’n ddyledus i Gymru yn sgil adeiladu HS2 yn Lloegr.

Cost y rheilffordd HS2 rhwng Llundain a Birmingham yw £66bn erbyn hyn.

Er bod trafnidiaeth wedi’i datganoli i Gymru, dydy isadeiledd rheilffyrdd ddim wedi’i ddatganoli, ac felly dydy Cymru ddim yn derbyn arian sy’n adlewyrchu gwariant yn Lloegr – yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Pe bai Cymru’n cael ei thrin yn yr un modd â’r Alban a Gogledd Iwerddon, medd Plaid Cymru, byddai’n derbyn £3.9bn o arian canlyniadol.

Talu Wrth Fynd

Bydd y newidiadau i brisiau yn dod i rym ar Fawrth 3, a dywed Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, fod y cynnydd yn cyd-fynd â chynnydd mewn costau ledled y diwydiant rheilffyrdd.

“Er mwyn parhau i allu buddsoddi, fel ein gwasanaethau newydd o Lyn Ebwy i Gasnewydd, ac i dalu costau cynyddol wrth geisio lleihau’r effaith ar deithwyr, rydym yn gweithredu cynnydd is na chwyddiant o 4.9% mewn prisiau trenau o Fawrth 3,” meddai.

Dywed hefyd fod Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno system Talu Wrth Fynd yn y de, lle gall cwsmeriaid dapio mewn gyda’u cerdyn banc wrth fynd ar drên a thapio allan wrth adael.

“De Cymru yw’r lleoliad cyntaf yn y Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain lle y gall teithwyr ar y rheilffyrdd ddefnyddio’r dechnoleg troi i fyny a mynd hwn,” meddai Lee Waters.

“Ar hyn o bryd, mae teithwyr sy’n teithio rhwng Pont-y-clun, Caerdydd a Chasnewydd yn elwa ar yr arloesedd hwn, gyda chynllun ehangach i gael ei gyflwyno i ddechrau ar gyfer ardal Metro De Cymru gan ddechrau gyda rheilffordd Glyn Ebwy y gwanwyn hwn.”

‘Rhatach teithio’

Ar y cyfan, mae tocynnau Talu Wrth Fynd yn rhatach na thocynnau arferol a byddan nhw’n cael eu capio ar lefel ddyddiol ac wythnosol er mwyn rhoi’r pris gorau i gwsmeriaid, yn ôl Trafnidiaeth Cymru.

“Yn dilyn treial llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf, mae’n braf gallu lansio’n gwasanaeth Talu Wrth Fynd newydd ar y llwybrau cyntaf yn ne-ddwyrain Cymru,” meddai Alexia Course, Prif Swyddog Marchnata Trafnidiaeth Cymru.

“Dyma gam cyntaf y broses o ddarparu’r cynllun Talu Wrth Fynd ac rydym yn bwriadu lansio’r system ar nifer fwy o lwybrau cyn diwedd y flwyddyn.

“Caiff technoleg debyg eisoes ei defnyddio mewn dinasoedd mawr fel Llundain a Manceinion ac mae wedi’i dylunio i hwyluso’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a’i gwneud hi’n rhatach i deithio arni.”