Mae Rishi Sunak wedi cael ei gyhuddo o “ymddygiad ffiaidd” tros sylwadau am bobol drawsryweddol.

Fe wnaeth Prif Weinidog y Deyrnas Unedig feirniadu Syr Keir Starmer am gyfres o droeon pedol – yn eu plith, meddai, mae ei “ddiffiniad o fenyw”.

“Pensiynau, cynllunio, anrhydeddau, cyflogau’r sector cyhoeddus, ffioedd dysgu, gofal plant, ail refferendwm, diffinio dynes – er, â bod yn deg, dim ond 99% o dro pedol oedd hwnnw,” meddai Rishi Sunak.

Daeth y sylwadau ar y diwrnod pan fo Esther Ghey, mam Brianna gafodd ei llofruddio mewn ymosodiad trawsffobig, wedi bod wylio Cwestiynau’r Prif Weinidog o’r oriel gyhoeddus.

Ond mae’n debyg nad oedd hi wedi cyrraedd y sesiwn pan gafodd y sylwadau eu gwneud ryw chwarter awr cyn hynny.

“O’r holl wythnosau i ddweud hynny, pan fo mam Brianna yn y siambr hon,” meddai arweinydd y Blaid Lafur.

‘Prif Weinidog gwan ac anegwyddorol’

Wrth ymateb, mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhuddo Rishi Sunak o “ymddygiad ffiaidd” gan ddweud ei fod yn “Brif Weinidog gwan ac anegwyddorol”.

“Rhaid iddo fe ymddiheuro’n bersonol i Esther Ghey,” meddai.

Yn ôl Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, fe fu nifer o sylwadau Rishi Sunak yn “annoeth, di-ras ac yn amlwg yn gelwyddog”.

Dywed y dylai deimlo “cywilydd, oni bai ei fod e’n hollol ddigywilydd”.

‘Dad-ddyneiddio pobol draws’

Yn ôl Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, mae’r sylwadau’n “warthus”.

“Yn fwy na hynny, mae’n datgelu sut mae dad-ddyneiddio pobol draws wedi’i normaleiddio, bron, yn ein gwleidyddiaeth ni,” meddai.

“All hyn ddim cael ei dderbyn.

“Fydda i ddim yn ei dderbyn yma yng Nghymru.”

Dydy Vaughan Gething, ei wrthwynebydd yn y ras i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, ddim wedi ymateb ond mae e wedi aildrydar neges gan Stonewall, sy’n dweud bod y sylwadau’n “gywilyddus, yn ddidostur ac yn affwysol”.

Mae’r mudiad yn dweud bod yn rhaid i’r fath sylwadau “stopio” gan fod iddyn nhw “ganlyniadau mewn bywyd go iawn”, ac yn galw am ymddiheuriad yn ogystal ag ystyriaeth o “sut mae geiriau diofal gan y rhai mewn grym yn, ac yn gallu arwain at niwed”.

Mae e hefyd wedi aildrydar sylwadau gan Stephen Doughty, Aelod Seneddol Llafur De Caerdydd a Phenarth, sy’n dweud bod y sylwadau’n “hollol gywilyddus”.

Mae e wedi beirniadu’r “jôcs creulon am bobol draws heddiw o bob diwrnod”, gan ychwanegu bod Keir Starmer “yn gwbl gyfiawn” wrth dynnu sylw atyn nhw.

“Mae troseddau casineb yn cynyddu – ond i’r Torïaid, dydyn ni yn y gymuned LHDT+ ddim ond yn deilwng o fod yn destun jôcs creulon,” meddai.