Mae disgwyl i Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw (dydd Mercher, Ionawr 17) pam eu bod nhw’n atal gwerth £3.9bn o gyllid rheilffyrdd sy’n ddyledus i Gymru.
Cost y rheilffordd HS2 rhwng Llundain a Birmingham yw £66bn erbyn hyn, yn ôl cadeirydd gweithredol y cynllun fu’n rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Trafnidiaeth San Steffan yr wythnos ddiwethaf.
Er bod trafnidiaeth wedi’i datganoli i Gymru, dydy isadeiledd rheilffyrdd ddim wedi’i ddatganoli ac felly dydy Cymru ddim yn derbyn arian sy’n adlewyrchu gwariant yn Lloegr – yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Pe bai Cymru’n cael ei thrin yn yr un modd â’r Alban a Gogledd Iwerddon, medd Plaid Cymru, byddai’n derbyn £3.9bn o arian canlyniadol.
Cafodd oddeutu 10% o lwybrau bws Cymru eu dileu neu eu cyfyngu haf diwethaf o ganlyniad i bwysau ariannol, ac mae arbenigwyr yn darogan y gallai 15% i 25% o holl lwybrau bws Cymru wynebu toriadau neu addasiadau sylweddol dros y flwyddyn nesaf.
‘Addewidion mawr’
Heddiw (dydd Mercher, Ionawr 17), bydd Liz Saville Roberts yn siarad mewn dadl yn Neuadd San Steffan ar fater canslo ail gam HS2 a Network North.
“Cafodd ail gam HS2 ei ddileu â ffanffer fawr ac addewidion mawr i Gymru,” meddai ar drothwy’r ddadl.
“Ond y realiti ydy fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o hyd yn dal bron i £4bn o gyllid sy’n ddyledus i ni pe bai Cymru’n cael ei thrin yn unol â’r Alban a Gogledd Iwerddon.
“Mae cyfaddefiad cadeirydd gweithredol HS2 fod cost HS2 wedi chwyddo i £66bn yn golygu bod Cymru’n colli allan ar £3.9bn o gyllid mawr ei angen.
“Byddai’r arian hwnnw’n drawsnewidiol i’n hisadeiledd trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae gwasanaethau bws wedi’u rhedeg i lawr ers blynyddoedd.
“Mae hyd at chwarter gwasanaethau bws Cymru mewn perygl o doriadau neu addasiadau sylweddol, mewn gwlad sydd eisoes yn fwy dibynnol ar geir nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig.
“Mae rhethreg ymffrostgar Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyllid trafnidiaeth yn cyferbynnu â phrofiadau bywyd yn eu cymunedau.
“Dw i’n edrych ymlaen at ofyn i Weinidog Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig heddiw i amlinellu pam yn union mae’n credu ei bod hi’n deg fod Cymru’n colli £3.9bn.
“Bydd Plaid Cymru bob amser yn sefyll i fyny dros degwch ynghylch HS2, a fyddwn ni ddim yn gorffwys hyd nes bod Cymru’n derbyn yr hyn sy’n ddyledus i ni.”