“Gwynt teg ar ei ôl” oedd ymateb Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru, i ymddiswyddiad dirprwy gadeirydd y Blaid Geidwadol neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 16).

Cyhoeddodd Lee Anderson, ynghyd â’r dirprwy arall Brendan Clarke-Smith, eu hymadawiadau ar ôl penderfynu cefnogi gwelliannau i Fil Rwanda, gyda’r holl aelodau seneddol Ceidwadol â swyddi o fewn y blaid wedi cael rhybudd y bydden nhw’n cael eu diswyddo pe baen nhw’n pleidleisio yn erbyn y llywodraeth.

Roedd gwelliannau i’r Bil yn cynnwys un gan yr SNP yn datgan fod y cynllun i ddanfon ceiswyr lloches o wledydd Prydain i Rwanda yn anniogel, ond cafodd ei drechu.

Cafodd gwelliant William Cash, y Ceidwadwr, yn ceisio hepgor cyfraith ryngwladol er mwyn pasio’r Bil ei drechu hefyd.

Yn eu llythyr yn ymddiswyddo, dywed Lee Anderson a Brendan Clarke-Smith fod eu cefnogaeth i’r Llywodraeth “mor gryf ag erioed” ond eu bod nhw wedi cyflwyno gwelliannau er mwyn ceisio cryfhau’r ddeddfwriaeth o fewn y fframwaith sydd ar gael i wleidyddion yn San Steffan.

Ond maen nhw’n cydnabod fod gwneud hynny, fel swyddogion o fewn y Blaid Geidwadol, hefyd yn golygu na allan nhw barhau yn eu swyddi.

“I ffwrdd â fe i GBN (GB News) a chyflog ar sail perfformiad am gulfarn,” meddai Liz Saville Roberts am Lee Anderson.

“A gwynt teg ar ei ôl.”

Gwasanaeth coffa Betty Boothroyd: Cyn-Ysgrifennydd Cymru dan y lach

Mae Simon Hart, ynghyd â Rishi Sunak a Penny Mordaunt, wedi gwrthod caniatâd i aelodau seneddol gymryd awr i ffwrdd er mwyn mynd i’r gwasanaeth