Mae Simon Hart, cyn-Ysgrifennydd Cymru, yn un o dri Cheidwadwr sydd dan y lach am wrthod yr hawl i aelodau seneddol gael amser o’r gwaith i fynd i wasanaeth coffa Betty Boothroyd.
Bu farw cyn-Lefarydd Tŷ’r Cyffredin yn 93 oed fis Chwefror y llynedd, ac fe fydd gwasanaeth coffa’n cael ei gynnal yn Abaty Westminster bore fory (dydd Mawrth, Ionawr 16).
Fe fu aelodau seneddol yn galw droeon am gael dechrau busnes seneddol awr yn hwyrach er mwyn rhoi amser i unrhyw un sy’n dymuno mynd i’r gwasanaeth, ond mae’r holl alwadau wedi’u gwrthod gan y Prif Weinidog Rishi Sunak, Penny Mordaunt (arweinydd Tŷ’r Cyffredin) a’r Prif Chwip Simon Hart.
Bydd aelodau seneddol yn ymgynnull yn Nhŷ’r Cyffredin yn y bore i drafod y Bil Rwanda dadleuol.
Mae’r Independent yn adrodd fod ffynhonnell yn San Steffan yn cyhuddo Rishi Sunak o “sgorio pwyntiau”, gan ddweud bod y penderfyniad yn un “pitw”.
Mae Syr Lindsay Hoyle, y Llefarydd presennol, wedi mynegi ei siom ynghylch y penderfyniad, ac mae Simon Hart wedi gwrthod gwneud sylw.