Bydd ymateb i newid hinsawdd a lleihau’r perygl o lifogydd yn y dyfodol i gymunedau ledled Cymru yn gofyn am fuddsoddiad cynyddol a pharhaus mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ond fydd hi ddim yn bosib amddiffyn pob lleoliad sydd mewn perygl am resymau economaidd.
Dyma gasgliad adroddiad newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n edrych ar lefel y buddsoddiad sydd ei angen mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd i reoli perygl llifogydd Cymru yn y dyfodol o afonydd a’r môr mewn hinsawdd sy’n newid.
Mae’r adroddiad wedi’i gyhoeddi wrth i’r corff ymateb i gam gweithredu yn Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Genedlaethol Llywodraeth Cymru.
24% yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd
Mae’r adroddiad yn ystyried pedair senario fuddsoddi wahanol ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd ar raddfa genedlaethol (Cymru), dros gyfnod o 100 mlynedd, sy’n ystyried effeithiau newid hinsawdd.
Mae’r senarios yn cynnwys:
- ymateb i newid yn yr hinsawdd ar gyfer yr holl amddiffynfeydd presennol
- buddsoddi mewn amddiffynfeydd sy’n gost-fuddiol
- buddsoddi mewn lleoliadau sydd â’r risg uchaf yn unig
- effeithiau buddsoddi ar lefelau cyllido cyfredol.
Yn ôl casgliadau’r adroddiad, dros y can mlynedd nesaf ac o ystyried effeithiau rhagamcanol newid hinsawdd, bydd 24% yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd o afonydd, a 47% yn fwy o ganlyniad i lifogydd llanwol.
Bydd 34% yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb.
Dydy’r ffigurau hyn ddim yn ystyried unrhyw eiddo newydd allai gael eu hadeiladu yn y cyfamser.
3.4 gwaith y lefelau cyllido presennol
Bydd ymateb i ragamcanion newid hinsawdd ar draws Cymru dros y ganrif nesaf ar gyfer yr holl amddiffynfeydd llifogydd presennol yn gofyn am 3.4 gwaith y lefelau cyllido presennol, medd yr adroddiad.
Er bod y senario hon yn dod â’r manteision mwyaf o ran lleihau’r perygl llifogydd i’r nifer fwyaf o eiddo, bydd yn costio’r mwyaf i’w chyflawni.
Byddai buddsoddi mewn amddiffynfeydd economaidd yn unig, lle byddai’r budd economaidd o gyflawni gwaith gwella yn fwy na’r costau, yn gofyn am gynnydd o 40% mewn lefelau cyllido, ond byddai o fudd i lai o eiddo.
Er y bydd unrhyw waith yn dod ar gost, dywed yr adroddiad fod budd economaidd buddsoddi mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ar lefel Cymru gyfan yn llawer mwy na’r gost o gyflawni’r gwaith ym mhob un o’r pedair senario, gyda phob £1 sy’n cael ei wario yn rhoi rhwng £2.80 a £13.10 o fudd, yn dibynnu ar y senario.
Fodd bynnag, ar lefel leol, efallai na fydd rhai lleoliadau yn gost-effeithiol i’w hamddiffyn, a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ar sut caiff perygl llifogydd ei reoli yn yr ardaloedd hyn.
Bydd buddsoddi mewn lleoliadau risg uchel yng Nghymru bob amser yn rhoi budd, gan fod y rhan fwyaf o’r eiddo sydd mewn perygl wedi’u lleoli yn yr ardaloedd hyn.
Fodd bynnag, mae dros 22,000 eiddo y tu ôl i amddiffynfeydd llifogydd sy’n aneconomaidd i fuddsoddi ynddyn nhw dros y can mlynedd nesaf.
Er bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli’r risg yma, bydd angen cyfuniad o ymyriadau ar Gymru er mwyn helpu cymunedau i ddod yn fwy gwydn.
Ac o ystyried yr amser mae’n ei gymryd i gynllunio a sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau adeiladu a strategaethau addasu ar raddfa fawr, a gan fod effeithiau newid hinsawdd eisoes yn amlwg, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n annog yr holl randdeiliaid i gynllunio nawr ac i ystyried y dull amlweddog fydd ei angen i reoli perygl llifogydd yng Nghymru yn effeithiol yn y dyfodol.
‘Her fwyaf ein hoes ni yw argyfwng yr hinsawdd’
Yn ôl Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd yr adroddiad yn tanio sgyrsiau “hanfodol” am le mae’n rhaid targedu buddsoddiadau.
“Does dim gwadu mai her fwyaf ein hoes ni yw argyfwng yr hinsawdd,” meddai.
“Rydym yn sicr wedi bod yn delio ag effeithiau dybryd yr argyfwng hwnnw yn ddiweddar, gyda nifer o stormydd yn taro glannau Cymru dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf.
“Bydd y ffordd yr ydym yn rheoli mwy o berygl llifogydd yn y dyfodol yn dod hyd yn oed yn fwy heriol wrth i’r newid yn yr hinsawdd gyflymu.
“Nod yr adroddiad hwn yw helpu i ddeall y buddsoddiad sydd ei angen mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd i leihau’r risg honno i bobl dros y ganrif nesaf.
“Bydd yn sbarduno sgyrsiau anodd ynghylch lle mae rhaid targedu buddsoddiad a dulliau y gallai fod angen eu cymryd mewn ardaloedd sydd ag eiddo cyfyngedig a llai o fuddion economaidd.
“Ond mae’n hanfodol ein bod ni’n cael y sgyrsiau hynny nawr.
“Ni fyddwn byth yn gallu atal pob achos o lifogydd, ac mae’r risgiau’n cynyddu.
“Dyna pam mae’n rhaid i lywodraethau o bob lefel, busnesau a chymunedau weithio gyda’i gilydd nawr – i gynllunio’n effeithiol, a gweithredu i reoli’r risgiau cynyddol o lifogydd yr ydym yn eu gweld nawr ac a fydd yn parhau yn y dyfodol.”
‘Rhaid i ni gymryd y risgiau o ddifrif’
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sydd i ddod, mae angen “gwneud pethau’n wahanol”, yn ôl Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Er y byddwn yn parhau i fuddsoddi a chynnal ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, ni allan nhw ddarparu amddiffyniad 100%,
“Gall llifogydd lifo dros amddiffynfeydd, neu gall yr amddiffynfeydd fethu.
“Mae angen iddyn nhw hefyd barhau i allu ymdopi â newid yn yr hinsawdd bob blwyddyn os ydynt am ddal i ddarparu’r un safon o amddiffyniad.
“Mae hyn yn golygu y bydd angen iddyn nhw fod yn uwch ac yn gryfach, a chael eu cynnal i fod yn addas at y diben.
“Ond nid yw hyn yn ymarferol nac yn gost-effeithiol ym mhob lleoliad.
“Mae angen i ni ddeall beth sy’n bosibl – ac yn ddymunol – dros y tymor hir.
“Rydym yn gwybod y bydd angen i ni wneud pethau’n wahanol os ydym am fynd i’r afael â’r heriau mwy sydd o’n blaenau.
“Mae hyn yn cynnwys defnyddio dulliau rheoli llifogydd naturiol lle bynnag y gallwn, osgoi datblygiadau mewn ardaloedd â pherygl uchel o lifogydd, defnyddio dulliau dalgylch cyfan, rhagweld yn well ac annog pobl i gofrestru i gael rhybuddion llifogydd am ddim.
“Mae’n rhaid i ni gymryd y risgiau o ddifrif.
“Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd nawr, ac rydym yn gweld y dystiolaeth o’n cwmpas.
“Mae angen i ni symud y ddadl addasu ymlaen yng Nghymru a dod â phawb y gallai llifogydd effeithio arnyn nhw at ei gilydd i ddylunio a chyflwyno’r dull cyfannol sydd ei angen ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol, a pharatoi ar gyfer effeithiau anochel newid yn yr hinsawdd.”