Mae’r iaith Wyddeleg wedi cael ei siarad yn y llys yn ninas Belfast, a hynny fel rhan o achos llys tros arwyddion ffordd dwyieithog.
Daw hyn ar ôl i Conradh na Gaeilge herio’r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch Cyngor Dinas Belfast i wrthod datgelu dogfennau cyfreithiol mewn perthynas ag arwyddion dwyieithog Canolfan Hamdden Olympia.
Yn ystod y gwrandawiad, fe fu tystion yn cyflwyno’u hunain trwy gyfrwng yr Wyddeleg wrth i nifer fynd gerbron y tribiwnlys ddydd Llun (Ionawr 15).
Roedd disgwyl i’r achos gael ei glywed fis Awst y llynedd, ond cafodd ei ohirio er mwyn casglu rhagor o dystiolaeth ac er mwyn i’r Cyngor ymddangos gerbron y llys.
Her gyfreithiol
Cafodd yr achos ei ddwyn gan Conradh na Gaeilge, ei gefnogi gan Brosiect Cefnogaeth Ymgyfreithiad Budd y Cyhoedd (PILS), a’i gynrychioli gan y Pwyllgor Gweinyddu Cyfiawnder.
Maen nhw’n herio penderfyniad Cyngor Dinas Belfast, gafodd ei gefnogi gan y Comisiynydd Gwybodaeth, i wrthod datgelu dogfennau cyfreithiol oedd yn amlinellu’r meini prawf ar gyfer proses ‘galw i mewn’ gan y DUP mewn perthynas ag arwyddion dwyieithog yng Nghanolfan Hamdden Olympia.
Roedd y dystiolaeth gyfreithiol wedi bodloni’r trothwy sy’n awgrymu y gallai arwyddion dwyieithog gael “effaith andwyol anghymesur” ar “gyfran o boblogaeth yr ardal”.
Gwrthododd y Cyngor ddatgelu’r farn hon yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth gan Conradh na Gaeilge.
Dydy’r tribiwnlys ddim wedi dod i benderfyniad eto, ac fe allai hynny gymryd hyd at dair wythnos.
Defnyddio’r Wyddeleg
Mae’n debygol mai dyma’r tro cyntaf i’r Wyddeleg gael ei siarad yn y llys.
Ond dydy’r ddeddf sy’n gwahardd defnyddio’r iaith mewn dogfennau cyfreithiol yn y llys ddim wedi cael ei diddymu eto.
Mae Deddf Iaith a Hunaniaeth 2022 yn San Steffan wedi braenaru’r tir ar gyfer diddymu’r ddeddf.
“Roedden ni’n siomedig dros ben pan wnaeth y DUP barhau â’u hymdrechion hirdymor i atal hawliau iaith Wyddeleg, ac fe wnaethon ni ‘alw i mewn’ y penderfyniad ar arwyddion dwyieithog yng Nghanolfan Hamdden Olympia,” meddai Cuisle Nic Liam, Cydlynydd Hawliau Iaith Conradh na Gaeilge.
“Pan oedd y farn gyfreithiol ddilynol gafodd ei darparu i’r Cyngor wedi bodloni’r trothwy sy’n awgrymu y gallai arwyddion dwyieithog gael ‘effaith andwyol anghymesur’ ar ‘gyfran o boblogaeth yr ardal’, fe wnaethon ni gais ar unwaith am gopi trwy Gais Rhyddid Gwybodaeth.
“Fe wnaeth Cyngor Dinas Belfast wrthod datgelu’r dogfennau hynny.
“Yn y bôn, fe wnaeth y farn gyfreithiol honno wyrdroi pwyllgor oedd wedi pleidleisio o ddeuddeg i chwech o blaid arwyddion dwyieithog yn Olympia.
“Mae’r farn gyfreithiol honno’n effeithio’n ddifrifol ar gymuned, a thrwy wrthod rhyddhau’r wybodaeth honno, mae Cyngor Dinas Belfast wedi atal y cyhoedd rhag gweld y meini prawf a’r rhesymeg wrth wneud y penderfyniad yn y pen draw i wrthod arwyddion dwyieithog.
“Rydyn ni’n credu, o ystyried yr ymgynghoriad parhaus ar y mater hwn, a’r ddadl ehangach ynghylch hawliau iaith, y dylai penderfyniadau cyfreithiol sy’n arwain polisi’r Cyngor fod yn dryloyw ac yn agored i graffu a heriau.
“Gobeithio, trwy’r tribiwnlys hwn, y gallwn ni ddychwelyd at ddiwylliant o fod yn agored a thryloyw, a bod penderfyniadau cyfreithiol sy’n cael eu ceisio yn y dyfodol gydag arian trethdalwyr, ar gael yn hawdd i gymunedau a dinasyddion drwyddi draw.”