Mae Sky News wedi darogan “newid seismig” yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig – ond maen nhw’n ddamweiniol wedi achosi newid seismig o fath arall drwy hepgor Ynys Môn oddi ar y map.

Daeth y camgymeriad wrth i Sam Coates, Dirprwy Olygydd Gwleidyddol y sianel, drafod pôl piniwn sy’n rhoi Llafur ymhell ar y blaen pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal nawr.

Gyda newid yn y seddi yn San Steffan ar gyfer yr etholiad nesaf, mae YouGov wedi cyhoeddi pôl sy’n rhoi mwyafrif o 120 o seddi i Lafur, i fyny o 202 i 385.

Ond byddai’r Ceidwadwyr yn gostwng o 365 i 169 – sy’n waeth o dipyn na cholledion y blaid yn 1997 pan ddaeth Llafur a Tony Blair i rym.

Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill 48 sedd, a’r SNP 25, ond does dim sôn am Blaid Cymru.