Mae elusen anifeiliaid yr RSPCA yn atgoffa perchnogion cŵn XL Bully fod ganddyn nhw bythefnos ar ôl er mwyn eu cofrestru nhw cyn i reolau newydd ddod i rym.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer eu heithrio o’r rheolau newydd, rhaid i berchnogion wneud cais i gofrestru eu cŵn erbyn Ionawr 31 fan bellaf.
Bydd hi’n drosedd bod yn berchen ar gŵn XL Bully sydd heb eu cofrestru erbyn y dyddiad cau.
Mae’n costio £92.40 y pen ar gyfer pob ci i wneud cais am eithriad drwy wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae’n ofynnol cael yswiriant trydydd parti – mae modd ei gael drwy wefan yr Ymddiriedolaeth Cŵn.
Bydd yn rhaid sicrhau bod:
- pob ci wedi’i sbaddu
- pob ci wedi cael meicrosglodyn
- gennych chi yswiriant trydydd parti a thystysgrif cofrestru
- pob ci sydd wedi’i gofrestru’n byw yn y cyfeiriad sydd wedi’i gofrestru (gall cŵn fod yn byw mewn cyfeiriad arall am hyd at 30 diwrnod bob blwyddyn)
- perchnogion yn rhoi gwybod am newid cyfeiriad, marwolaeth neu allforio ci
- bod y ci yn aros ar dennyn ac mewn mwsel mewn mannau cyhoeddus
- bod modd atal cŵn rhag dianc
Gallai torri unrhyw un o’r amodau hyn arwain at ddileu eithriad cŵn, ac fe allen nhw gael eu meddiannu a’u difa gan yr heddlu.
Mae’r RSPCA yn rhan o’r Glymblaid Rheoli Cŵn sy’n anghytuno â’r gwaharddiad ar gŵn XL Bully, ac maen nhw wrthi’n lobïo llywodraethau yng ngwledydd Prydain i leihau effaith y ddeddfwriaeth ar berchnogion cyfrifol, cŵn sy’n ymddwyn yn dda, a milfeddygon a’u timau sy’n rhan o’r broses o weithredu’r ddeddf.
‘Dechrau’r broses cyn gynted â phosib’
“Mae hi mor bwysig, os yw perchnogion yn amau mai XL Bully yw eu ci, eu bod nhw’n dechrau’r broses eithrio cyn gynted â phosib,” meddai Dr Samantha Gaines ar ran yr RSPCA.
“Er y daeth rhan gynta’r gwaharddiad i rym ar Ragfyr 31, 2023, sy’n cynnwys y gofyniad i XL Bully fod ar dennyn a mwsel mewn mannau cyhoeddus, mae gan berchnogion presennol tan ganol dydd ar Ionawr 31 i wneud cais am yr eithriad sy’n eu galluogi nhw i gadw eu ci yn gyfreithiol, fel eu bod nhw’n ddiogel.
“Mae’r holl fanylion ynghylch sut i wneud hyn ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rydyn ni’n annog perchnogion cŵn XL Bully i ddechrau’r broses eithrio nawr, ac i beidio â’i gadael hi’n rhy hwyr.
“Tra bod heriau cyfreithiol ar y gweill, dydyn ni ddim yn gwybod pryd fydd y rhain yn digwydd na beth fydd y canlyniad fel mae’n sefyll ar hyn o bryd.
“O Chwefror 1, bydd rhaid bod gan berchnogion cŵn XL Bully dystysgrif eithrio er mwyn cael eu cadw nhw’n gyfreithlon.”
Rhaid sbaddu cŵn hyd at flwydd oed erbyn Ionawr 31, a thros flwydd oed erbyn Mehefin 30.