Mae perchennog meithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd yn “benderfynol” o ailagor yn dilyn tân, yn ôl Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli’r rhanbarth.
Bu criwiau’n ceisio diffodd y tân ar stâd ddiwydiannol y Wern drwy gydol y nos, wedi iddo ddechrau neithiwr (nos Sul, Ionawr 14).
Mae Meithrinfa Wibli Wobli yn dweud ar Facebook fod eu hadeilad wedi llosgi’n llwyr, ac maen nhw wedi cadarnhau na chafodd neb eu hanafu.
Y feithrinfa ydy’r un gyntaf Gymraeg yng Nghasnewydd, oni bai am feithrinfeydd y Mudiad Meithrin, ac mae eu gwaith yn hybu’r Gymraeg yn “hynod bwysig”.
Roedd Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, ar y llinell biced â doctoriaid sy’n streicio yn Ysbyty Brenhinol Gwent fore heddiw, a bu yn stad ddiwydiannol y Wern hefyd.
“Mae’n dorcalonnus fod y lle wedi mynd fyny yn wenfflam, ond o siarad efo nhw yna bore yma, ac efo Natasha [Baker, y perchennog], mae hi’n benderfynol ei bod hi’n mynd i ailagor, ac mae hi wedi profi bod o’n gweithio,” meddai wrth golwg360.
“Mae ei darpariaeth iaith Gymraeg hi’n ffantastig, felly dw i’n gobeithio y gwnân nhw ffeindio lle newydd i allu sefydlu, naill ai dros dro neu’n fwy parhaol.
“Dw i ddim yn beiriannydd strwythurol, wrth gwrs, ond bosib y bydd rhaid i’r lle gael ei dynnu lawr.”
‘Hynod o drist’
Dywed fod 14 o bobol yn cael eu cyflogi gan y feithrinfa, oedd wedi agor ei drysau fis Ebrill y llynedd.
“Pob cefnogaeth iddi rŵan i ailsefydlu, ac os ydy rhywun yn gwybod am leoliad yn lleol fedran nhw allu ei ddefnyddio yn y mesur dros dro, byddai hynny’n wych hefyd,” meddai Peredur Owen Griffiths wedyn.
“Mae’n hynod o drist, ond mae hi’n benderfynol o ddal ati a phob anogaeth iddi am wneud.
“Hi yw’r feithrinfa Gymraeg neu ddwyieithog gyntaf yng Nghasnewydd tu allan i’r Cylch Meithrin, ac i weld yn ennill ei phlwyf ers mis Ebrill.
“Roeddwn i’n gweld llwyddiant gwych o gwmni Cymraeg, ac mae o mor drist i weld beth sydd wedi digwydd.”
Bu’n rhaid i bobol oedd yn Tiny Rebel, y bar drws nesaf, adael y safle am oddeutu 9 o’r gloch neithiwr, ond dywed Peredur Owen Griffiths fod eu hadeilad nhw’n edrych yn iawn.
‘Gwaith pwysig yn hybu’r iaith’
Mae tudalen GoFundMe wedi cael ei sefydlu i geisio codi arian, ac roedd dros £3,000 wedi cael ei gasglu mewn tua phum awr.
Ychwanega Delyth Jewell, sydd hefyd yn Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru ar gyfer y rhanbarth, fod y sefyllfa’n “ofnadwy”.
“Mae cymaint o angen i hybu’r iaith Gymraeg mewn llefydd fel Casnewydd; fyswn i ddim yn dweud fod y sefyllfa’n un fregus, mae yna gymaint o botensial yna,” meddai wrth golwg360.
“Ond dydy hi ddim yn ardal lle mae’r iaith wedi bod yn draddodiadol gryf, felly mae gwaith fel mae Wibli Wobli wedi bod yn ei wneud yn bwysig iawn ar gyfer hybu’r Gymraeg.
“Gobeithio’n fawr y bydd yna bosibilrwydd buan iawn o gael help i wneud yn siŵr fod y feithrinfa’n gallu ffeindio safle newydd, fydd yn gyfleus, ac y byddan nhw’n cael cefnogaeth.
“Maen nhw wedi sefydlu GoFundMe, a dw i’n gobeithio y bydd nid yn unig trigolion yr ardal, ond pobol dros Gymru sy’n credu’n gryf fod angen i’r iaith ffynnu mewn llefydd fel Casnewydd, yn gallu dangos eu cefnogaeth.
“Mae e’n edrych yn eithriadol o drist, ac mae angen i’r staff sy’n gweithio yno gael sicrwydd yn fuan y bydd yna ddyfodol ar gyfer eu meithrinfa nhw.”